Hen Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Troellwr (sgwrs | cyfraniadau)
Ychwanegwyd manylion am Garreg Cadfan a 'surexit', wedi eu codi'n rhannol o'r erthygl ar Cymraeg Cynnar. (Mae'n fwy addas eu cynnwys yma)
Llinell 1: Llinell 1:
{{Cymraeg}}
{{Cymraeg}}
Mae '''Hen Gymraeg''' yn enw ar gyfnod yn hanes yr [[Cymraeg|iaith Gymraeg]] a estynnodd o'r [[9fed ganrif |9fed]] i'r [[11eg ganrif]].
Mae '''Hen Gymraeg''' yn enw ar gyfnod yn hanes yr [[Cymraeg|iaith Gymraeg]] sy'n estyn o'r [[8fed ganrif]] i'r [[12fed ganrif]].

Prin yw'r testunau sydd wedi goroesi o gyfnod Hen Gymraeg. Yn eu plith gellir nodi'r arysgrif ar [[Carreg Cadfan|Garreg Cadfan]] (tua [[800]], mae'n debyg) a'r testun a elwir yn 'Gofnod ''surexit'''. Digwydd y testun hwnnw yn [[Llyfr Sant Chad]], a gedwir yn eglwys gadeiriol [[Caerlwytgoed]] (Lichfield). Gweithred gyfreithiol ydyw, a enwyd ar ôl ei air cyntaf (sydd, fel nifer o'r geiriau eraill, yn yr [[Lladin|iaith Ladin]]). Ysgrifennwyd y testun tua dechrau neu ganol y [[9fed ganrif]]:<ref>[[Dafydd Jenkins (hanesydd)|Jenkins, D.]] ac Owen, M. E. 1983/84 .The Welsh marginalia in the Lichfield Gospels. ''Cambridge Medieval Celtic Studies'', 5, 37–66; 7, 91–120.</ref>
Mae glosau, sef nodiadau Cymraeg ymyl y ddalen ar destunau [[Lladin]], o'r cyfnod hwn wedi goroesi. Mae rhai o'r [[llawysgrif]]au a ysgrifennwyd o'r 12fed ganrif ymlaen naill ai wedi eu copïo o lawysgrifau hŷn neu yn gofnod o draddodiad llafar hŷn, e.e. [[Llyfr Llandaf]] (a gedwir yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]), yr ''[[Annales Cambriae]]'' (cedwir un fersiwn o hwn yn y ''Public Record Office'' (PRO) yn Llundain a dau fersiwn yn y [[Llyfrgell Brydeinig]]), a gwaith y [[Cynfeirdd]].

<blockquote><tt>
''surexit'' tutbulc ''filius'' liuit ha''gener'' tutri dierchi tir telih haioid ilau elcu ''filius'' gelhig haluidt iuguret amgucant pel amtanndi ho diued diprotant ''gener'' tutri o guir imguodant ir degion guragon tagc rodesit elcu guetig ''equs tres uache, tres uache'' nouidligi namin ir ni be cas igridu dimedichat guetig hit did braut grefiat guetig nis minn tutbulc hai cenetl in ois oisau
</tt></blockquote>

Mae glosau, sef nodiadau Cymraeg ymyl y ddalen ar destunau Lladin, o'r cyfnod hwn wedi goroesi hefyd. Mae rhai o'r [[llawysgrif]]au a ysgrifennwyd o'r 12fed ganrif ymlaen naill ai wedi eu copïo o lawysgrifau hŷn neu yn gofnod o draddodiad llafar hŷn, e.e. [[Llyfr Llandaf]] (a gedwir yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]), yr ''[[Annales Cambriae]]'' (cedwir un fersiwn o hwn yn y ''National Archives'' (PRO gynt) yn Llundain a dau fersiwn yn y [[Llyfrgell Brydeinig]]), a gwaith y [[Cynfeirdd]].

Mae'r darnau ysgrifenedig hyn yn cynnig tystiolaeth o fath ynglŷn â'r Gymraeg yn y cyfnod hwn. Eto amwys yw'r dystiolaeth i raddau gan na wyddom ai synau'r Gymraeg sydd wedi newid ynteu'r ffordd y cyflëir y synau hyn ar bapur. Rhaid bod yn ofalus wrth dynnu casgliadau o'r dystiolaeth ysgrifenedig brin. Yn y [[llawysgrifau Cymreig]] ni cheir treiglad ar ddechrau gair byth, a phrin yw'r enghreifftiau o [[cyfnewidiad seiniol|gyfnewidiadau seiniol]] yng nghanol neu ar ddiwedd [[gair]], e.e. '''atar''' (adar), '''nimer''' (nifer), '''douceint''' (deugain), '''merc''' (merch), '''trucarauc''' (trugarog). Ceir '''gu''' ynghanol gair, sydd yn w-gytsain erbyn heddiw, e.e. '''petguar''' (pedwar). Fe dybir nad oedd y gyfundrefn [[treiglad|dreigladau]] ar ddechrau geiriau sydd gennym heddiw ddim eto wedi datblygu'n llawn yn y Gymraeg na'r cyfnewidiadau seiniol mewnol, megis '''t''' i '''d''' yn '''atar/adar''', eto wedi eu cwblhau. Ond y mae'n bosib bod geiriau yn cael eu treiglo ar lafar ond mai'r ffurf gysefin yn unig a ysgrifennid, neu bod y ffordd o yngan y cytseiniaid wedi newid ers hynny. Digwydd '''oi''' neu '''ui''' lle yr yngenir wy heddiw, e.e. '''oith''' (wyth), '''troi''' (trwy), '''bloidin''' (blwyddyn), '''notuid''' (nodwydd). Ceir '''ou''' sydd heddiw'n '''eu''' neu '''au''', e.e. '''hithou''' (hithau), '''nouodou''' (neuaddau).

Llinell 9: Llinell 15:

Nid oedd Hen Gymraeg eto wedi magu '''y''' ar flaen geiriau'n dechrau ag '''s''' a chytsain arall megis '''stebill''' (ystafell), '''strat''' (ystrad). Safle'r acen yn y [[Brythoneg|Frythoneg]] oedd ar y sillaf cyn yr olaf (y goben). Pan gollid terfyniadau Brythoneg, hynny yw, y sill olaf, fe fyddai’r acen ar sill olaf y gair newydd, e.e. '''trīnĭtātem''' i '''trindáwd''', a'r acen ar y sill olaf '''–áwd''' (dynoda '''΄''' safle'r brif acen). Yna rhywbryd tua diwedd cyfnod yr Hen Gymraeg symudodd yr acen i'r goben i roi '''tríndawd'''. Wedi cyfnod yr Hen Gymraeg gwanhawyd yr '''aw''' oedd bellach yn ddiacen i '''o''' gan roi'r gair modern '''trindod'''. '''Ha''' a '''hac''' oedd ein '''ac''' a'n '''a''' ni megis mewn gweithred sy'n sôn am 'douceint torth ha maharuin in ir ham ha douceint torth in ir gaem' (deugain torth a maharen yn yr haf a deugain torth yn y gaeaf).

== Cyfeiriadau ==
{{cyfeiriadau}}

==Gweler hefyd==
==Gweler hefyd==
*[[Brythoneg]] a [[Cymbrieg|Chymbrieg]]
*[[Brythoneg]] a [[Cymbrieg|Chymbrieg]]
*[[Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg]]
*[[Trawsnewidiad y Frythoneg i'r Gymraeg]]
*[[Cymraeg Cynnar]]: 550 - 800
*[[Cymraeg Cynnar]]: 550 - 750
*Hen Gymraeg: 800 - 1100
*Hen Gymraeg: 750 - 1150
*[[Cymraeg Canol]]: 1100 - 1400
*[[Cymraeg Canol]]: 1150 - 1400

[[Categori:Cymraeg]]
[[Categori:Cymraeg]]

Fersiwn yn ôl 22:50, 2 Rhagfyr 2012

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae Hen Gymraeg yn enw ar gyfnod yn hanes yr iaith Gymraeg sy'n estyn o'r 8fed ganrif i'r 12fed ganrif.

Prin yw'r testunau sydd wedi goroesi o gyfnod Hen Gymraeg. Yn eu plith gellir nodi'r arysgrif ar Garreg Cadfan (tua 800, mae'n debyg) a'r testun a elwir yn 'Gofnod surexit'. Digwydd y testun hwnnw yn Llyfr Sant Chad, a gedwir yn eglwys gadeiriol Caerlwytgoed (Lichfield). Gweithred gyfreithiol ydyw, a enwyd ar ôl ei air cyntaf (sydd, fel nifer o'r geiriau eraill, yn yr iaith Ladin). Ysgrifennwyd y testun tua dechrau neu ganol y 9fed ganrif:[1]

surexit tutbulc filius liuit hagener tutri dierchi tir telih haioid ilau elcu filius gelhig haluidt iuguret amgucant pel amtanndi ho diued diprotant gener tutri o guir imguodant ir degion guragon tagc rodesit elcu guetig equs tres uache, tres uache nouidligi namin ir ni be cas igridu dimedichat guetig hit did braut grefiat guetig nis minn tutbulc hai cenetl in ois oisau

Mae glosau, sef nodiadau Cymraeg ymyl y ddalen ar destunau Lladin, o'r cyfnod hwn wedi goroesi hefyd. Mae rhai o'r llawysgrifau a ysgrifennwyd o'r 12fed ganrif ymlaen naill ai wedi eu copïo o lawysgrifau hŷn neu yn gofnod o draddodiad llafar hŷn, e.e. Llyfr Llandaf (a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru), yr Annales Cambriae (cedwir un fersiwn o hwn yn y National Archives (PRO gynt) yn Llundain a dau fersiwn yn y Llyfrgell Brydeinig), a gwaith y Cynfeirdd.

Mae'r darnau ysgrifenedig hyn yn cynnig tystiolaeth o fath ynglŷn â'r Gymraeg yn y cyfnod hwn. Eto amwys yw'r dystiolaeth i raddau gan na wyddom ai synau'r Gymraeg sydd wedi newid ynteu'r ffordd y cyflëir y synau hyn ar bapur. Rhaid bod yn ofalus wrth dynnu casgliadau o'r dystiolaeth ysgrifenedig brin. Yn y llawysgrifau Cymreig ni cheir treiglad ar ddechrau gair byth, a phrin yw'r enghreifftiau o gyfnewidiadau seiniol yng nghanol neu ar ddiwedd gair, e.e. atar (adar), nimer (nifer), douceint (deugain), merc (merch), trucarauc (trugarog). Ceir gu ynghanol gair, sydd yn w-gytsain erbyn heddiw, e.e. petguar (pedwar). Fe dybir nad oedd y gyfundrefn dreigladau ar ddechrau geiriau sydd gennym heddiw ddim eto wedi datblygu'n llawn yn y Gymraeg na'r cyfnewidiadau seiniol mewnol, megis t i d yn atar/adar, eto wedi eu cwblhau. Ond y mae'n bosib bod geiriau yn cael eu treiglo ar lafar ond mai'r ffurf gysefin yn unig a ysgrifennid, neu bod y ffordd o yngan y cytseiniaid wedi newid ers hynny. Digwydd oi neu ui lle yr yngenir wy heddiw, e.e. oith (wyth), troi (trwy), bloidin (blwyddyn), notuid (nodwydd). Ceir ou sydd heddiw'n eu neu au, e.e. hithou (hithau), nouodou (neuaddau).

Yr acen

Nid oedd Hen Gymraeg eto wedi magu y ar flaen geiriau'n dechrau ag s a chytsain arall megis stebill (ystafell), strat (ystrad). Safle'r acen yn y Frythoneg oedd ar y sillaf cyn yr olaf (y goben). Pan gollid terfyniadau Brythoneg, hynny yw, y sill olaf, fe fyddai’r acen ar sill olaf y gair newydd, e.e. trīnĭtātem i trindáwd, a'r acen ar y sill olaf –áwd (dynoda ΄ safle'r brif acen). Yna rhywbryd tua diwedd cyfnod yr Hen Gymraeg symudodd yr acen i'r goben i roi tríndawd. Wedi cyfnod yr Hen Gymraeg gwanhawyd yr aw oedd bellach yn ddiacen i o gan roi'r gair modern trindod. Ha a hac oedd ein ac a'n a ni megis mewn gweithred sy'n sôn am 'douceint torth ha maharuin in ir ham ha douceint torth in ir gaem' (deugain torth a maharen yn yr haf a deugain torth yn y gaeaf).

Cyfeiriadau

  1. Jenkins, D. ac Owen, M. E. 1983/84 .The Welsh marginalia in the Lichfield Gospels. Cambridge Medieval Celtic Studies, 5, 37–66; 7, 91–120.

Gweler hefyd