Seithenyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Yn ôl un traddodiad, ei feibion oedd y seintiau [[Tudno]] a [[Gwynhoedl]]. |
Yn ôl un traddodiad, ei feibion oedd y seintiau [[Tudno]] a [[Gwynhoedl]]. |
||
Yn |
Yn ôl un fersiwn o'r chwedl am Gantre'r Gwaelod mae Seithenyn yn geidwad y llifddorau yn llys [[Gwyddno Garanhir]]. Un noson dymhestlog bu gwledda mawr yn y llys ac anghofiodd Seithenyn, oedd yn feddw, i edrych y llifddorau a'u cau rhag y môr. Oherwydd ei esgelusdod boddwyd trigolion Cantre'r Gwaelod i gyd, namyn y brenin ei hun. |
||
Cyfeirir at Seithenyn yn y gerdd ''Boddi Maes Gwyddneu'' yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]]. Ar ddechrau'r gerdd mae'n cael ei orchmynu i edrych allan i weld rhuthr y môr, ond roedd eisoes yn rhy hwyr. Ar ddiwedd y testun ceir un o [[Englynion y Beddau]] (orgraff ddiweddar): |
Cyfeirir at Seithenyn yn y gerdd ''Boddi Maes Gwyddneu'' yn [[Llyfr Du Caerfyrddin]]. Ar ddechrau'r gerdd mae'n cael ei orchmynu i edrych allan i weld rhuthr y môr, ond roedd eisoes yn rhy hwyr. Yn fersiwn [[Llyfr Du Caerfyrddin]] o'r chwedl nid '''Seithenyn''' sy'n cael y bai am adael y môr i mewn, ond merch o'r enw Mererid. Ar ddiwedd y testun ceir un o [[Englynion y Beddau]] (orgraff ddiweddar): |
||
:Bedd Seithenyn, synhwyr wan, |
:Bedd Seithenyn, synhwyr wan, |
||
:Rhwng Caer Cenedyr a glan -- môr; |
:Rhwng Caer Cenedyr a glan -- môr; |
Fersiwn yn ôl 14:20, 13 Ebrill 2007
Roedd Seithenyn yn arglwydd a gysylltir â Chantre'r Gwaelod, yr ardal ym Mae Ceredigion (mewn rhai fersiynau mae'r lleoliad yn wahanol) a foddwyd gan y môr yn y 6ed ganrif, yn ôl traddodiad llên gwerin.
Yn ôl un traddodiad, ei feibion oedd y seintiau Tudno a Gwynhoedl.
Yn ôl un fersiwn o'r chwedl am Gantre'r Gwaelod mae Seithenyn yn geidwad y llifddorau yn llys Gwyddno Garanhir. Un noson dymhestlog bu gwledda mawr yn y llys ac anghofiodd Seithenyn, oedd yn feddw, i edrych y llifddorau a'u cau rhag y môr. Oherwydd ei esgelusdod boddwyd trigolion Cantre'r Gwaelod i gyd, namyn y brenin ei hun.
Cyfeirir at Seithenyn yn y gerdd Boddi Maes Gwyddneu yn Llyfr Du Caerfyrddin. Ar ddechrau'r gerdd mae'n cael ei orchmynu i edrych allan i weld rhuthr y môr, ond roedd eisoes yn rhy hwyr. Yn fersiwn Llyfr Du Caerfyrddin o'r chwedl nid Seithenyn sy'n cael y bai am adael y môr i mewn, ond merch o'r enw Mererid. Ar ddiwedd y testun ceir un o Englynion y Beddau (orgraff ddiweddar):
- Bedd Seithenyn, synhwyr wan,
- Rhwng Caer Cenedyr a glan -- môr;
- Mawrhyddig o gynran.
Darllen pellach
- A.O.H. Jarman (gol.), Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982)
- F.J. North, Sunken Cities (Caerdydd, 1957)