Brythoniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: fy:Britten (histoarysk) |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (Robot: Yn newid en:Britons (historical) yn en:Britons (Celtic people) |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
[[br:Brezhoned]] |
[[br:Brezhoned]] |
||
[[ca:Britans]] |
[[ca:Britans]] |
||
[[en:Britons ( |
[[en:Britons (Celtic people)]] |
||
[[eo:Britonoj]] |
[[eo:Britonoj]] |
||
[[es:Britanos]] |
[[es:Britanos]] |
Fersiwn yn ôl 13:40, 1 Rhagfyr 2012
Allwedd: |
(y map gwreiddiol gan William Rees 1959 Atgynhyrchwyd yn 'Hanes Cymru' gan John Davies) | |
Yr oedd y Brythoniaid (neu'r Brutaniaid a hefyd Brython fel enw unigol lluosog) yn bobl a'r oedd yn byw yn ynys Prydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban cyn goresgyniad y Rhufeiniaid. Nid un "genedl" oeddynt ond yn hytrach gasgliad o deyrnasoedd annibynnol mawr a bach yn seiliedig ar batrymau llwythol. Mae llawer o ysgrifenwyr wedi anghofio am y Brythoniaid - maen' nhw'n defnyddio termau fel "Celtiaid" neu "Romano-British" gan amlaf.
Erbyn i'r Rhufeiniaid adael yn 410 OC roedd Lladin, iaith y Rhufeiniaid, wedi dylanwadu ar y Frythoneg ac roedd hi'n dechrau newid ei strwythur. Roedd yr iaith yn datblygu a'r ysgogiad i gofnodi gwahanol ddeunydd - ysgrifau am hanes a dirywiad tybiedig y genedl gan y mynach Gildas, canu Taliesin ac Aneirin yn cael eu traddodi ar lafar, a chofnodion a phytiau mewn llawysgrifau eglwysig ac ar feini - yn arwain at gychwyn llenyddiaeth Gymraeg.
Yn llenyddiaeth gynnar Cymru, defnyddir yr enwau "Cymry" a "Brython" (Brythoniaid/Brutaniaid) ochr yn ochr.
Roedd y Cymry'n ymwybodol iawn o'u perthynas â'r Llydäwyr yn Llydaw (fel y tyst yr enw Breton) a'r Cernywiaid yng Nghernyw, ynghyd â'u cyd-Frythoniaid yn yr Hen Ogledd. Dros y môr i Lydaw aeth nifer o'r Brythoniaid, yn ôl chwedl Macsen Wledig a ffynonellau eraill, wedi'r goresgyniad Sacsonaidd yn Lloegr - a dyma le ymsefydlodd nifer o'r seintiau Brythonaidd cynnar.
Llyfryddiaeth
- Geraint Bowen (gol.), Y Gwareiddiad Celtaidd (Caerdydd, 1987). Gweler yn arbennig pennod 4, "Y Brydain Rufeinig" gan D. Ellis Evans a phennod 9, "Yr Ymfudo i Lydaw" gan Léon Fleuriot.
- Wendy Davies, Wales in the Early Middle Ages (Leicester, 1982)
- John Morris, The Age of Arthur (Llundain, 1973)
- Christopher Snyder, The Britons (Blackwell, 2003)