Aneirin Karadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B cat
Llinell 17: Llinell 17:
{{DEFAULTSORT:Karadog, Aneirin}}
{{DEFAULTSORT:Karadog, Aneirin}}
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Beirdd Cymraeg]]
[[Categori:Cerddorion Cymreig]]
[[Categori:Cyflwynwyr radio Cymreig]]
[[Categori:Cyflwynwyr radio Cymreig]]
[[Categori:Cyflwynwyr teledu Cymreig]]
[[Categori:Cyflwynwyr teledu Cymreig]]

Fersiwn yn ôl 23:07, 30 Tachwedd 2012

Bardd, darlledwr, perfformiwr a ieithydd o Gymro yw Aneirin Karadog (ganed 11 Mai 1982)

Bellach yn byw ym Mhontyberem, Sir Gâr, ganwyd Aneirin Karadog yn ybsyty H.M.Stabley Llanelwy ac fe'i magwyd am ddwy flynedd yn Llanrwst, cyn symud lawr i fyw ym Mhontardawe. Yno y bu tan 1990 pan symudodd ef a'i deulu i Bontypridd. Bu'n ddisgybl yn ysgol gynradd Pont-Siôn-Norton ac yna ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1993-2000. graddiodd wedyn o'r Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen, gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Bu'n gweithio am gyfnod gyda menter iaith Rhondda Cynon Taf cyn cael swydd yn llanelli fel ymchwilydd gyda chwmni teledu Tinopolis yn 2005. Mae e wedi cyflwyno ar Wedi 7 a bellach yn rhannu ei amser rhwng rhaglen Heno a Sam Ar y Sgrin, ar S4C.

Enillodd wobr emyr feddyg yn Eisteddfod Casnewydd 2004 a Chadair yr urdd yn 2005. Cyhoeddodd gerddio ar y cyd yn y gyfrol Crap Ar Farddoni ac ym Mawrth 2012 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn unigol, O Annwn i Geltia(Cyhoeddiadau Barddas).

Bu'n aelod o Genod Droog ac Y Diwygiad[1] ac mae e wedi cyfrannu i amryw albyms cerddorol, gyda Llwybr Llaethog a Cofi Bach a Tew Shady.

Yn 2007 cyflwynodd Aneirin Karadog gyfres Byd y Beirdd i Radio Cymru.

Llyfryddiaeth

  • [Gydag eraill] Crap ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch, 2006).

Cyfeiriadau

  1.  Karadog, Aneirin. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2012.