Bow Street: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
Mae gwasg y Lolfa yn Nhalybont
Llinell 5: Llinell 5:
'Capel y Garn' yw enw'r hen [[capel|gapel]] yn y pentref. Evan Richardson, athro [[John Elias]] a [[Hugh Owen]], oedd y sentar cyntaf i bregethu yn Bow Street tua'r flwyddyn [[1780]]. Codwyd y capel cyntaf yn [[1793]], a chodwyd capel newydd ar y safle yn [[1833]] am fod y gynulleidfa wedi cynyddu gymaint.
'Capel y Garn' yw enw'r hen [[capel|gapel]] yn y pentref. Evan Richardson, athro [[John Elias]] a [[Hugh Owen]], oedd y sentar cyntaf i bregethu yn Bow Street tua'r flwyddyn [[1780]]. Codwyd y capel cyntaf yn [[1793]], a chodwyd capel newydd ar y safle yn [[1833]] am fod y gynulleidfa wedi cynyddu gymaint.


Hanner milltir i'r gogledd o'r pentref mae cymuned wledig Rhyd-y-pennau. Mae lôn yn arwain i lawr i bentref bach [[Clarach]] a [[Bae Clarach]] ar yr arfordir, ar y ffordd i'r [[Y Borth|Borth]]. I'r de mae [[Comins Coch]] ac i'r dwyrain [[Plas Gogerddan]]. O'r gyffordd tu allan i'r pentref mae ffordd yn rhedeg i fyny i'r bryniau i gyfeiriad [[Rhaeadr]].
Hanner milltir i'r gogledd o'r pentref mae cymuned wledig Rhyd-y-pennau. Mae lôn yn arwain i lawr i bentref bach [[Clarach]] a [[Bae Clarach]] ar yr arfordir, ar y ffordd i'r [[Y Borth|Borth]]. I'r de mae [[Comins Coch]] ac i'r dwyrain [[Plas Gogerddan]]. O'r gyffordd tu allan i'r pentref mae ffordd yn rhedeg i fyny i'r bryniau i gyfeiriad [[Rhaeadr Gwy]].


Lleolir gwasg enwog 'Y Lolfa' yn Bow Street.


===Enwogion===
===Enwogion===

Fersiwn yn ôl 23:07, 12 Ebrill 2007

Pentref yng Ngheredigion yw Bow Street. Mae'n ymestyn yn stribed hirgul o bobtu i lôn yr A487 tua 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth. Ar un adeg roedd gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian. Mae yn ardal Genau'r Glyn.

Mae tarddiad yr enw yn ansicr. Yn ôl rhai awdurdodau 'Nantafallen' neu 'Nantyfallen' oedd hen enw'r gymdogaeth, ond 'Bow Street' yw'r unig enw arni heddiw (does dim fersiwn Cymraeg).

'Capel y Garn' yw enw'r hen gapel yn y pentref. Evan Richardson, athro John Elias a Hugh Owen, oedd y sentar cyntaf i bregethu yn Bow Street tua'r flwyddyn 1780. Codwyd y capel cyntaf yn 1793, a chodwyd capel newydd ar y safle yn 1833 am fod y gynulleidfa wedi cynyddu gymaint.

Hanner milltir i'r gogledd o'r pentref mae cymuned wledig Rhyd-y-pennau. Mae lôn yn arwain i lawr i bentref bach Clarach a Bae Clarach ar yr arfordir, ar y ffordd i'r Borth. I'r de mae Comins Coch ac i'r dwyrain Plas Gogerddan. O'r gyffordd tu allan i'r pentref mae ffordd yn rhedeg i fyny i'r bryniau i gyfeiriad Rhaeadr Gwy.


Enwogion