Pen-y-bryn, Abergwyngregyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dim tr
BDim crynodeb golygu
Llinell 26: Llinell 26:
}}
}}


[[Maenordy]] deulawr sy'n dyddio'n ôl i o leaif 1553 ydy '''Garth celyn''', tua 200 metr o [[Abergwyngregyn]], [[Gwynedd]] a a thua 5 milltir i'r dwyrain o [[bangor|Fangor]]; saif ar fryn coediog sy'n edrych dros y pentref a'r [[Afon Menai]]. Yr enw cyfoes am y tŷ yw '''Pen y Bryn'''. Fe'i gwnaed o garreg lleol a tho llechen o dipyn i beth ac ar chwe chyfnod gwahanol. Mae ganddo dŵr pedair llawr anghyffredin a gysylltir gyda [[Llywelyn Fawr]] a [[Y Dywysoges Siwan|Siwan]]. Cyfeirnod OS: SH653726.
[[Maenordy]] deulawr sy'n dyddio'n ôl i o leaif 1553 ydy '''Garth celyn''', tua 200 metr o [[Abergwyngregyn]], [[Gwynedd]] a a thua 5 milltir i'r dwyrain o [[bangor|Fangor]]; saif ar fryn coediog sy'n edrych dros y pentref ac [[Afon Menai]]. Yr enw cyfoes am y tŷ yw '''Pen y Bryn'''. Fe'i gwnaed o garreg lleol a tho llechen o dipyn i beth ac ar chwe chyfnod gwahanol. Mae ganddo dŵr pedair llawr anghyffredin a gysylltir gyda [[Llywelyn Fawr]] a [[Y Dywysoges Siwan|Siwan]]. Cyfeirnod OS: SH653726.


Ceir dogfen sy'n dyddion ôl i 1553 am breswylydd o'r enw Rhys Thomas a'i wraig Jane yn prynnu'r tŷ a'r tiroedd o'i amgylch. Yn hanesyddol, saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros [[Bwlch y Ddeufaen|Fwlch y Ddeufaen]] yn disgyn at arfordir [[Afon Menai]] a'r fferi drosodd i [[Llanfaes|Lanfaes]] ar Ynys Môn.
Ceir dogfen sy'n dyddion ôl i 1553 am breswylydd o'r enw Rhys Thomas a'i wraig Jane yn prynnu'r tŷ a'r tiroedd o'i amgylch. Yn hanesyddol, saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros [[Bwlch y Ddeufaen|Fwlch y Ddeufaen]] yn disgyn at arfordir [[Afon Menai]] a'r fferi drosodd i [[Llanfaes|Lanfaes]] ar Ynys Môn.

Fersiwn yn ôl 08:55, 29 Tachwedd 2012

Pen y Bryn
Pen y Bryn, Aber, safle tybiedig Garth Celyn.
Gwybodaeth gyffredinol
MathManor House
LleoliadAbergwyngregyn, Aber, Gwynedd
Dechrau adeiladucyn 1600au

Maenordy deulawr sy'n dyddio'n ôl i o leaif 1553 ydy Garth celyn, tua 200 metr o Abergwyngregyn, Gwynedd a a thua 5 milltir i'r dwyrain o Fangor; saif ar fryn coediog sy'n edrych dros y pentref ac Afon Menai. Yr enw cyfoes am y tŷ yw Pen y Bryn. Fe'i gwnaed o garreg lleol a tho llechen o dipyn i beth ac ar chwe chyfnod gwahanol. Mae ganddo dŵr pedair llawr anghyffredin a gysylltir gyda Llywelyn Fawr a Siwan. Cyfeirnod OS: SH653726.

Ceir dogfen sy'n dyddion ôl i 1553 am breswylydd o'r enw Rhys Thomas a'i wraig Jane yn prynnu'r tŷ a'r tiroedd o'i amgylch. Yn hanesyddol, saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros Fwlch y Ddeufaen yn disgyn at arfordir Afon Menai a'r fferi drosodd i Lanfaes ar Ynys Môn.


Dyddio Pen y Bryn

Ceir cofnod fod adeilad rhywle ar dir Pen y Bryn wedi ei godi rhwng 1303-1306, gwaith eitha trwm a oedd yn cynnwys cludo cerrig wedi'u siapio a chalch i wnued mortar. Does dim olion o gerrig mawr ar y safle arall - safle'r Mŵd, a chredir fod y safle yn y fan honno braidd yn fach i lys eitha mawr.[1] Gwyddwn hefyd i Rys a Jane Thomas fyw yma yn 1553, gan ei brynnu oddi wrth Coron Lloegr. Mae'r pren yn nho'r prif dŷ wedi'u dyddio i rhwng 1619 a 1624.[2] Gwyddwn hefyd fod y tŷ wedi'i adeiladu ar chwe chyfnod a bod hanes hir i'r tŷ cyn iddo gael to newydd tua 1620. [3] Codwyd y tŵr ar ôl gweddill y tŷ a chafwyd gryn ychwanegiadau yn y 18fed ganrif.


Llys Tywysogion Gwynedd yn Aber?

Roedd gan Dywysogion Gwynedd lys yn Abergwyngregyn. Mae ei union leoliad yn bwynt dadleuol; dywedir fod dau safle'n bosibl, naill ai ger Pen y Mŵd, gerllaw ar lan yr afon, a'r llall ar safle Garth Celyn.[4] Ceir adfeilion o'r Oesoedd Canol yng Ngarth Celyn, wedi cael eu dehonglu fel gwaith maen ond sy'n anodd ei ddyddio[5].[6] Wrth y Mŵd mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi dadorchuddio adeilad o Oes y Tywysogion, a'i nodi fel llys brenhinol.[7][8][9] Ers 1988, haerwyd mai safle'r tŷ presenol yw safle llys y Tywysogion, [10]

Cyfnod y Tywysogion

Yn wreiddiol, Aberffraw ym Môn oedd prif lys brenhinllin Gwynedd, ond Garth Celyn, prif lys cantref Arllechwedd, oedd y prif lys yn ystod teyrnasiad Llywelyn Fawr, a pharhaodd yn brif lys yng nghyfnod ei olynwyr Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffudd. Er bod y tywysogion yn dal i fynd "ar gylch" ar adegau o'r flwyddyn i gynnal y llys brenhinol yn lleol, Aber oedd safle llys Tywysogaeth Cymru annibynnol yn y 13eg ganrif. Yn y llys yn Abergwyngregyn y bu farw Y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, a'u mab Dafydd ap Llywelyn. Yma hefyd y cafwyd Gwilym Brewys yn ystafell wely Siwan yn 1230. Ceir nifer o lythyrau a dogfennau eraill sy'n nodi ei bod wedi eu hysgrifennu yng "Ngarth Kelyn". Ganed Y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort, yn y llys ar 12 Mehefin 1282.

Pen y Bryn yn 1811, darlun gan Syr Richard Hoare.
Pen y Bryn yn 1811, darlun gan Syr Richard Hoare.


Oriel

Cyfeiriadau

  1. A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. tud 110-112. accessed 5th November 2012
  2. Main range tree-ring dated 1619-24. Tree-ring dating commissioned by the North-west Wales Dendrochronological Project in association with RCAHMW, and reported in Vernacular Architecture 41 (2010), tud. 114: ABER, Pen-y-bryn (Garth Celyn) (SH 6582 7273) Felling date range: 1619–24. Gwefan Coflein
  3. A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. tud 6. http://www.castles99.ukprint.com/PenyBryn.pdf accessed 5th November 2012
  4. Tystiolaeth Garth Celyn. Gweneth Lilly, Llanfairfechan. Y Traethodydd, Cyf. CLIII (644-647) 1998 tud 145-147. [1] accessed 21 Tachwedd 2012
  5. "The complex included other structures, including a barn or gatehouse (possibly rebuilt about 1700 on earlier stonework) and the present tower."PEN-Y-BRYN, BARN, ABER; adalwyd ???
  6. A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. Tud 113. http://www.castles99.ukprint.com/PenyBryn.pdf]
  7. THE LLYS AT ABER, HOUSE EXCAVATED AT PEN Y MWD accessed 21st Feb 2011
  8. ABER CASTLE OR PEN-Y-MWD MOUND
  9. John Roberts, archaeologist for the Snowdonia National Park Authority. Final viewing for Abergwyngregyn's Welsh princes site at news.bbc.co.uk
  10. (am ddim) [2], (archif) [3] Ian Skidmore, Daily Post, 19 Tachwedd 2001