TV5MONDE: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.3) (robot yn tynnu: nl:TV5 Monde, th:เตวีแซงก์มงด์ |
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: nl:TV5MONDE, th:เตเวแซงก์มงด์ yn newid: tr:TV5MONDE |
||
Llinell 44: | Llinell 44: | ||
[[ko:TV5Monde]] |
[[ko:TV5Monde]] |
||
[[ms:TV5MONDE]] |
[[ms:TV5MONDE]] |
||
[[nl:TV5MONDE]] |
|||
[[pl:TV5 Monde]] |
[[pl:TV5 Monde]] |
||
[[pt:TV5Monde]] |
[[pt:TV5Monde]] |
||
[[ru:TV5 Monde]] |
[[ru:TV5 Monde]] |
||
[[th:เตเวแซงก์มงด์]] |
|||
[[tr:TV5 (Türkiye)]] |
|||
[[tr:TV5MONDE]] |
|||
[[uk:TV5 MONDE]] |
[[uk:TV5 MONDE]] |
||
[[vi:TV5MONDE]] |
[[vi:TV5MONDE]] |
Fersiwn yn ôl 12:58, 26 Tachwedd 2012
TV5MONDE (hen enw: TV5) yw'r rhwydwaith teledu rhyngwladol ar gyfer y byd Ffrangeg, neu francophone.
Daw'r rhan fwyaf o raglenni'r sianel o rwydweithiau mawr prif-ffrwd y byd Ffrangeg, yn enwedig France Télévisions a Group TF1 o Ffrainc, RTBF o Wlad Belg, TSR o'r Swistir, Radio-Canada a rhwydweithiau TVA yng Nghanada. Yn ogystal â newyddion rhyngwladol, mae TV5MONDE yn darlledu ffilmiau Ffrangeg, rhaglenni dogfen a rhaglenni cylchgrawn cerddoriaeth. Mae'r rhif "5" yn yr enw yn cynrychioli nifer y rhwydweithiau a'i sefydlodd. Mae'r sianel yn dal i ddarlledu dan yr enw TV5 ar y rhwydwaith domestig yng Nghanada, fel TV5 Québec-Canada. Cynhyrchir TV5 Québec-Canada ym Montréal, a gweddill y sianeli ym Mharis dan yr enw TV5MONDE.
Sianeli
Ers 2006, darlledir wyth olygiad rhanbarthol ar sawl rhwydwaith cêbl a lloeren:
- TV5MONDE FBS (Ffrainc, Gwlad Belg, Y Swistir)
- TV5MONDE Europe (gweddill Ewrop; ar gael ar Sky Digital yng ngwledydd Prydain, sianel 805)
- TV5MONDE Afrique (Affrica)
- TV5MONDE Orient (Dwyrain Canol)
- TV5MONDE Asie (gweddill Asia)
- TV5MONDE Etats-Unis (Unol Daleithiau America)
- TV5MONDE Amérique Latine – Caraïbes (America Ladin a'r Caribî)
- TV5 Québec-Canada
Gwefan
Yn ogystal â bod y rhwydwaith teledu mwyaf yn y byd Ffrangeg, mae gan TV5MONDE wefan sy'n cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwyd fideos newyddion, rhaglenni dogfen a cherddoriaeth. Fe'i cyfrifir yn un o'r gwefannau mwyaf poblogaidd yn y byd francophone.
Dolenni allanol
- (Ffrangeg) TV5MONDE