Prwsia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:
Daeth Prwsia'n [[dugiaeth|ddugiaeth]] yn [[1525]] dan reolaeth y frenhinllin [[Hohenzollern]]. Unodd â [[Brandenburg]] yn [[1618]] ac erbyn diwedd yr [[17eg ganrif]], dan reolaeth [[Ffrederic Wiliam]] ([[1620]] - [[1688]]), Etholwr Mawr Prwsia, roedd wedi datblygu i fod y wladwriaeth rymusaf yng ngorllewin yr Almaen.

Yn y [[18fed ganrif]] dan reolaeth [[Ffrederic Fawr]] ([[1712]] - [[1786]]), Brenin Prwsia (o [[1740]] hyd ei farwolaeth), ehangwyd ei thiriogaeth trwy gipio [[Silesia]] a rhan o [[Gwlad Pwyl|Wlad Pwyl]] gan wneud Prwsia yn un o'r gwledydd grymusaf yn [[Ewrop]]. Ychwanegwyd rhagor o diriogaeth yng [[Cynhadledd Vienna|Nghynhadledd]] [[Vienna]] ([[1815]]) yn sgîl trechu [[Napoleon]] gan y cynghreiriad.
Yn y [[18fed ganrif]] dan reolaeth [[Ffrederic Fawr]] ([[1712]] - [[1786]]), Brenin Prwsia (o [[1740]] hyd ei farwolaeth), ehangwyd ei thiriogaeth. Yn ystod y [[Rhyfel Saith Mlynedd]] ([[1756]]-[[1763]]) roedd [[Prydain Fawr]], Prwsia a [[Hanofer]] ar y naill ochr yn brwydro yn erbyn [[Ffrainc]], [[Awstria]], [[Sweden]] a [[Sacsoni]] ar y llall. Cipiodd Prwsia [[Silesia]] a rhan o [[Gwlad Pwyl|Wlad Pwyl]] gan wneud Prwsia yn un o'r gwledydd grymusaf yn [[Ewrop]]. Ychwanegwyd rhagor o diriogaeth yng [[Cynhadledd Vienna|Nghynhadledd]] [[Vienna]] ([[1815]]) yn sgîl trechu [[Napoleon]] gan y cynghreiriad.

Yn ail hanner y [[19eg ganrif]] reolai [[Bismarck]] ([[1815]] - [[1898]]) ym Mhrwsia. Gorchfygodd [[Awstria]] a'i chynghreiriaid Almaenig yn [[1866]] ac ychwanegwyd [[Schleswig-Holstein]] i diriogaeth Prwsia a ffurfiodd [[Ffederaliaeth Gogledd yr Almaen]]. Dyma hedyn [[Ymerodraeth yr Almaen]] a sefydlwyd ar ôl i Brwsia ennill [[Rhyfel Ffrainc a Phrwsia]] ([[1870]]-[[1871|71]]) gyda Bismarck yn Brif Ganghellor.

Fersiwn yn ôl 21:08, 10 Ebrill 2007

Tiriogaeth Prwsia ar ei ehangaf fel rhan o Ymerodraeth yr Almaen

Gwladwriaeth rymus yng ngogledd Yr Almaen ar lan y Môr Baltig oedd Prwsia, a sefydlwyd gan y Marchogion Tiwtonaidd yn y 13eg ganrif.

Daeth Prwsia'n ddugiaeth yn 1525 dan reolaeth y frenhinllin Hohenzollern. Unodd â Brandenburg yn 1618 ac erbyn diwedd yr 17eg ganrif, dan reolaeth Ffrederic Wiliam (1620 - 1688), Etholwr Mawr Prwsia, roedd wedi datblygu i fod y wladwriaeth rymusaf yng ngorllewin yr Almaen.

Yn y 18fed ganrif dan reolaeth Ffrederic Fawr (1712 - 1786), Brenin Prwsia (o 1740 hyd ei farwolaeth), ehangwyd ei thiriogaeth. Yn ystod y Rhyfel Saith Mlynedd (1756-1763) roedd Prydain Fawr, Prwsia a Hanofer ar y naill ochr yn brwydro yn erbyn Ffrainc, Awstria, Sweden a Sacsoni ar y llall. Cipiodd Prwsia Silesia a rhan o Wlad Pwyl gan wneud Prwsia yn un o'r gwledydd grymusaf yn Ewrop. Ychwanegwyd rhagor o diriogaeth yng Nghynhadledd Vienna (1815) yn sgîl trechu Napoleon gan y cynghreiriad.

Yn ail hanner y 19eg ganrif reolai Bismarck (1815 - 1898) ym Mhrwsia. Gorchfygodd Awstria a'i chynghreiriaid Almaenig yn 1866 ac ychwanegwyd Schleswig-Holstein i diriogaeth Prwsia a ffurfiodd Ffederaliaeth Gogledd yr Almaen. Dyma hedyn Ymerodraeth yr Almaen a sefydlwyd ar ôl i Brwsia ennill Rhyfel Ffrainc a Phrwsia (1870-71) gyda Bismarck yn Brif Ganghellor.

Yn 1918, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Prwsia yn weriniaeth annibynnol ond roedd wedi colli llawer o'i grym a'i dylanwad. Cafodd Prwsia ei diddymu gan y Cynghreiriaid buddugoliaethus ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Daeth yr enw 'Prwsia' a'r ymadrodd 'gwerthoedd Prwsaidd' i ddynodi effeithiolrwydd, disgyblaeth a hunan-aberth.

 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.