Prwsia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: Gwladwriaeth rymus yng ngogledd Yr Almaen ar lan y Môr Baltig oedd '''Prwsia''', a sefydlwyd gan y Marchogion Tiwtonaidd yn y 13eg ganrif. Daeth Prwsia'n [[dugi... |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Map-DR-Prussia.svg|250px|bawd|Tiriogaeth '''Prwsia''' ar ei ehangaf fel rhan o Ymerodraeth yr Almaen]] |
|||
[[Gwladwriaeth]] rymus yng ngogledd [[Yr Almaen]] ar lan y [[Môr Baltig]] oedd '''Prwsia''', a sefydlwyd gan y [[Marchogion Tiwtonaidd]] yn y [[13eg ganrif]]. |
[[Gwladwriaeth]] rymus yng ngogledd [[Yr Almaen]] ar lan y [[Môr Baltig]] oedd '''Prwsia''', a sefydlwyd gan y [[Marchogion Tiwtonaidd]] yn y [[13eg ganrif]]. |
||
Llinell 8: | Llinell 9: | ||
Yn [[1918]], ar ddiwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], daeth Prwsia yn weriniaeth annibynnol ond roedd wedi colli llawer o'i grym a'i dylanwad. Cafodd Prwsia ei diddymu gan y Cynghreiriaid buddugoliaethus ar ddiwedd yr [[Ail Ryfel Byd]]. |
Yn [[1918]], ar ddiwedd y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], daeth Prwsia yn weriniaeth annibynnol ond roedd wedi colli llawer o'i grym a'i dylanwad. Cafodd Prwsia ei diddymu gan y Cynghreiriaid buddugoliaethus ar ddiwedd yr [[Ail Ryfel Byd]]. |
||
Daeth yr enw 'Prwsia' a'r ymadrodd 'gwerthoedd Prwsaidd' i ddynodi effeithiolrwydd, disgyblaeth a hunan-aberth. |
|||
{{eginyn}} |
{{eginyn}} |
Fersiwn yn ôl 20:59, 10 Ebrill 2007
Gwladwriaeth rymus yng ngogledd Yr Almaen ar lan y Môr Baltig oedd Prwsia, a sefydlwyd gan y Marchogion Tiwtonaidd yn y 13eg ganrif.
Daeth Prwsia'n ddugiaeth yn 1525 dan reolaeth y frenhinllin Hohenzollern. Unodd â Brandenburg yn 1618 ac erbyn diwedd yr 17eg ganrif, dan reolaeth Ffrederic Wiliam (1620 - 1688), Etholwr Mawr Prwsia, roedd wedi datblygu i fod y wladwriaeth rymusaf yng ngorllewin yr Almaen.
Yn y 18fed ganrif dan reolaeth Ffrederic Fawr (1712 - 1786), Brenin Prwsia (o 1740 hyd ei farwolaeth), ehangwyd ei thiriogaeth trwy gipio Silesia a rhan o Wlad Pwyl gan wneud Prwsia yn un o'r gwledydd grymusaf yn Ewrop. Ychwanegwyd rhagor o diriogaeth yng Nhgynhadledd Fiena (1815) yn sgîl trechu Napoleon gan y cynghreiriad.
Yn ail hanner y 19eg ganrif reolai Bismarck (1815 - 1898) ym Mhrwsia. Gorchfygodd Awstria a'i chynghreiriaid Almaenig yn 1866 ac ychwanegwyd Schleswig-Holstein i diriogaeth Prwsia a ffurfiodd Ffederaliaeth Gogledd yr Almaen. Dyma hedyn Ymerodraeth yr Almaen a sefydlwyd ar ôl i Brwsia ennill Rhyfel Ffrainc a Phrwsia (1870-71) gyda Bismarck yn Brif Ganghellor.
Yn 1918, ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth Prwsia yn weriniaeth annibynnol ond roedd wedi colli llawer o'i grym a'i dylanwad. Cafodd Prwsia ei diddymu gan y Cynghreiriaid buddugoliaethus ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Daeth yr enw 'Prwsia' a'r ymadrodd 'gwerthoedd Prwsaidd' i ddynodi effeithiolrwydd, disgyblaeth a hunan-aberth.