Seisyll ap Clydog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Brenin Teyrnas Ceredigion a sefydlydd Teyrnas Seisyllwg oedd '''Seisyll ap Clydog''' (bl. tua 665 - tua 740). Prin yw ein gwybodaeth amdano. Ar ddechrau'r …
 
Llinell 10: Llinell 10:
[[Categori:Marwolaethau'r 740au]]
[[Categori:Marwolaethau'r 740au]]
[[Categori:Teyrnoedd Ceredigion]]
[[Categori:Teyrnoedd Ceredigion]]

[[br:Seisyll ap Clydog]]
[[en:Seisyll]]
[[ru:Сейсилл ап Клидог]]

Fersiwn yn ôl 07:05, 23 Tachwedd 2012

Brenin Teyrnas Ceredigion a sefydlydd Teyrnas Seisyllwg oedd Seisyll ap Clydog (bl. tua 665 - tua 740). Prin yw ein gwybodaeth amdano.

Ar ddechrau'r 8fed ganrif rheolai Seisyll ap Clydog yn Ngheredigion. Yn ôl yr achau traddodiadol roedd yn un o ddisgynyddion Ceredig fab Cunedda, sylfaenydd Ceredigion. Tua'r flwyddyn 730 cipiodd Seisyll dri chantref Ystrad Tywi oddi wrth Rhain ap Cadwgan, brenin Dyfed, a'i ychwanegu at ei deyrnas ei hun. Yn nes ymlaen rhoddwyd yr enw Seisyllwg ar y deyrnas estynedig newydd, ond mae haneswyr diweddar yn nodi bod yr enw hwnnw i'w cael mewn dogfennau canoloesol diweddarach ac mai fel Ceredigion y cyfeirir at y deyrnas yn yr ychydig ffynonellau cyfoes.[1] Cofnodir fod ei fab, Arthen ap Seisyll, wedi marw yn 807. Parhaodd Seisyllwg hyd 920 pan ddaeth yn rhan o deyrnas Deheubarth.

Cyfeiriadau

  1. Wendy Davies, Early Medieval Wales (Prifysgol Caerlyr, 1982), tud. 110.