Brwydr Passchendaele: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ms:Pertempuran Passchendaele
B cat
Llinell 8: Llinell 8:


[[Categori:1917]]
[[Categori:1917]]
[[Categori:Y Rhyfel Byd Cyntaf|Passchendaele]]
[[Categori:Brwydrau Gwlad Belg|Passchendaele]]
[[Categori:Brwydrau Gwlad Belg|Passchendaele]]
[[Categori:Brwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf|Passchendaele]]


[[cs:Třetí bitva u Yper]]
[[cs:Třetí bitva u Yper]]

Fersiwn yn ôl 01:39, 21 Tachwedd 2012

Milwyr Awstralaidd yn ystod Brwydr Passchendaele, 29 Hydref, 1917

Un o frwydrau y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1917 oedd Brwydr Passchendaele; defnyddir yr enw Trydydd Brwydr Ypres amdani hefyd. Ymladdwyd y frwydr ger dinas Ypres yng Ngwlad Belg, rhwng byddin yr Almaen dan Max von Gallwitz ac Erich Ludendorff, a lluoedd y cyngheiriaid, yn cynnwys milwyr o Brydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan Douglas Haig a Hubert Gough.

Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar 31 Gorffennaf 1917. Roedd yr ymgyrch wedi ei chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad y Prif Weinidog, David Lloyd George. Y bwriad oedd torri trwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd Oostende a Zeebrugge, oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen.

Parhaodd y frwydr hyd 6 Tachwedd, 1917, pan gipiwyd Passendale, oedd erbyn hynny yn ddim ond ychydig o adfeilion ynghanol y mwd. Mae dadl yn parhau ynglyn a cholledion y ddwy ochr; yn ôl rhai ffigyrau collodd y cyngheiriaid 448,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, a'r Almaen 260,000. Yn ôl eraill, roedd y ffigyrau yn fwy cyfartal. Rhan o Frwydr Passchendaele oedd Brwydr Cefn Pilckem, lle lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf.