Cabinda (talaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn newid: de:Provinz Cabinda
JhsBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (Robot: Yn newid no:Cabinda yn no:Cabinda (provins)
Llinell 71: Llinell 71:
[[lt:Kabinda (provincija)]]
[[lt:Kabinda (provincija)]]
[[nl:Cabinda (provincie)]]
[[nl:Cabinda (provincie)]]
[[no:Cabinda]]
[[no:Cabinda (provins)]]
[[pl:Prowincja Kabinda]]
[[pl:Prowincja Kabinda]]
[[pt:Cabinda (província)]]
[[pt:Cabinda (província)]]

Fersiwn yn ôl 14:38, 19 Tachwedd 2012

Map o Angola, gyda Cabinda yng nghornel chwith uwch y map.

Allglofan[1] a thalaith o Angola yw Cabinda. Ei phrifddinas yw Cabinda.

Hanes

Hanes cynnar

Roedd Cabinda cynnar yn cynnwys tair theyrnas: Loango a Kakongo a N'Goyo i ogledd Afon y Congo, a Ndongo i dde Afon y Congo.[2]

Dan reolaeth Portiwgal

Ymwelodd y Portiwgaliaid â Cabinda yn gyntaf yn hwyr y bymthegfed ganrif. Daeth Cabinda yn Brotectoriaeth Bortiwgalaidd yn sgîl arwyddo Cytundeb Simulambuco ym 1885 wrth i Bortiwgal geisio gyfnerthu ei hymerodraeth yn ystod yr Ymgiprys am Affrica yn hwyr y ddeunawfed ganrif. Yng nghyfansoddiad yr Estado Novo ym 1933, diffinwyd Cabinda ac Angola fel rhannau ar wahân o Bortiwgal, ond ym 1956 ymunodd Bortiwgal weinyddiaeth Cabinda ac Angola.[2]

Dan reolaeth Angola

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Daearyddiaeth

Map o Dalaith Cabinda. Mae prif dir Angola i'r de ddwyrain gyda Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC) rhwng y ddwy diriogaeth (labelir y DRC ar y map gan ei chyn-enw, Zaire).

Lleolir Cabinda rhwng Gweriniaeth y Congo a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (DRC), gydag arwynebedd o dua 10,000 km².[2] Mae ganddo ffîn ogleddol o 201 km â Gweriniaeth y Congo,[1] ffîn ddwyreiniol a deheuol o 225 km â'r DRC,[1] a morlin gorllewinol o 150 km â Chefnfor yr Iwerydd.[3] Mae llain 60 km ei lled o diriogaeth y DRC yn gwahanu Cabinda o brif dir Angola.[2]

Economi

Mae Cabinda yn cynhyrchu dros hanner o olew Angola, ac yn cyfri am bron ei holl enillion cyfnewid tramor. Mae Cabinda yn derbyn tua 10% o'r trethi a dalir gan ChevronTexaco a'i bartneriaid sydd yn gweithredu alltraeth y dalaith.[2]

Demograffeg

Dim ond traean o'r 300,000 o bobl frodorol Cabinda ohonynt sydd yn byw o fewn tiriogaeth y dalaith ei hunan. Mae'r gweddill yn byw yn agos at y ffiniau yn nhiriogaethau Gweriniaeth y Congo a'r DRC.[2]

Iaith genedlaethol Cabinda yw Cabindês. Mae tua 90% o Gabindiaid yn siarad Ffrangeg, a 10% yn siarad Portiwgaleg. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gristnogion.[2]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Angola: Geography. CIA World Factbook. CIA.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 (Saesneg) Cabinda. GlobalSecurity.org.
  3. (Saesneg) Republic of Cabinda: Geography.

Cysylltiadau allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: