Brwydr Coed Llathen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
nodyn |
B cywiro enw cat |
||
Llinell 34: | Llinell 34: | ||
[[Categori:Brwydrau Cymru|Coed Llathen]] |
[[Categori:Brwydrau Cymru|Coed Llathen]] |
||
[[Categori:Hanes Sir Fynwy]] |
[[Categori:Hanes Sir Fynwy]] |
||
[[Categori:Llywelyn ap |
[[Categori:Llywelyn ap Gruffudd]] |
||
[[en:Battle of Cadfan]] |
[[en:Battle of Cadfan]] |
Fersiwn yn ôl 06:05, 19 Tachwedd 2012
Mae Brwydr Coed Llathen (neu Frwydr Cymerau) yn cael ei chyfrif yn un o frwydrau pwysicaf hanes Cymru: brwydr ydoedd a gynhaliwyd yn 1257 pan laddodd byddin Llywelyn ap Gruffudd dros 3,000 o Saeson yng Nyffryn Tywi. Roedd y frwydr mewn dwy ran: y cyntaf yng Nghoed Llathen a'r ail yng Nghymerau.
Y Cefndir
Am flynyddoedd cyn y frwydr roedd Llywelyn wedi bod yn brysur yn adfeddiannu tiroedd a gollwyd a derbyn gwrogaeth arglwyddi'r Deheubarth gan gynnwys Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain. Fel tâl am eu teyrngarwch iddo, cyflwynodd diroedd iddyn nhw yn anrheg - tiroedd roedd wedi'u cymeryd oddi wrth Rhys Fychan a oedd yn deyrngar i Harri III, Brenin Lloegr. Roedd ei fab, sef y Tywysog Edward wedi sylweddoli fod Llywelyn wedi cryfhau dros y blynyddoedd a chasglodd fyddin fawr er mwyn ei wrthwynebu.[1] Roedd ganddo gefnogaeth llawer o uchelwyr gan gynnwys: Stephen Bauzan, Arglwydd Breigan a Llansannor a Nicholas FitzMartin, Arglwydd Cemaes, gyda'r rhan fwyaf o'i filwyr o Loegr a rhai o Gasgwyn.[2]
Paratoi am ryfel
Erbyn 29 Mai 1257 roedd llynges Saesnig wedi glanio yng Nghaerfyrddin a'r fyddin a gludwyd yno wedi ymgasglu. Y dydd Iau canlynol, dechreuodd y fyddin fartsio i gyfeiriad Llandeilo, drwy ddyffryn Tywi gan anrheithio a lladd popeth a ddeuent ar ei draws - cymunedau cyfan. Drwy wneud hyn, gobeithient y byddai Castell Dinefwr yn ildio ar unwaith i atal y fath gyflafan. [3]
Y Frwydr
Y diwrnod cyntaf
Ar y nos Sadwrn canlynol gwersyllodd y Saeson ger Llandeilo Fawr. Yn ddiarwybod iddynt, roedd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain wedi eu dilyn gyda rhan o'u byddin gan ymosod-a-chuddio o'r goedwig gerllaw. Roedd bwau hirion y Cymry yn cael effaith seicolegol ar y saeson ynghyd â synau enbyd. Y person oedd wedi arwain y fyddin saesnig drwy Gymru oedd Rhys Fychan a phenderfynodd Stephen Bauzan ddanfon Rhys i drafod heddwch gydag arweinwyr y fyddin Gymreig a oedd yng Ngastell Dinefwr. Ni wyddom yn union beth a ddigwyddodd iddo; naill ai newidiodd ei got gan ochri gyda'r Cymry neu cafodd ei ddal. Ond yn sicr fe gollodd y Saeson yr unig berson a oedd yn adnabod yr ardal, ac roeddent ar goll hebddo. [4] </ref>
Yr ail ddiwrnod
Brwydr Coed Llathen
Oherwydd nad oedd ganddynt wybodaeth ddaearyddol, penderfynodd y saeson ei heglu hi'n ôl i Gaerfyrddin. Rhwng torriad gwawr a chanol dydd roedd bwau hirion a phicelli'r Cymry wrthi'n ddiddiwedd. Tua chanol dydd roedd brwydro person i berson a chipiodd y Cymry wageni cyflenwadau bwyd ac arfau'r Saeson yng Nghoed Llathen. [4]
Brwydr Cymerau
Roedd ysbryd y fyddin Saesnig yn rhacs; roeddent wedi cael eu gwanhau gan dachtegau'r fyddin Gymreig hyd syrffed. Ymgasglodd y cyfan ynghŷd i'r gorllewin - a martsio i gyfeiriad Cymerau. Roedd y tir yma'n berffaith i'r Cymry: ceunentydd a thirwedd garw i'w harafu a chorsdir gwlyb a fyddai'n gwbwl anobeithiol i'r marchogion Saesnig. Rhagodwyd y Saeson; ymosodwyd gyda holl rym y fyddin Gymreig a lladdwyd Stephen Bauzan ac hyd at 3,000 o'i filwyr. Dihangodd gweddill y fyddin Saesnig fel ieir am eu bywydau. [5]
Gwyddwn fod Llywelyn ei hun wedi arwain y frwydr.[6]
Wedi'r storm...
Yn dilyn buddugoliaeth fawr y Cymry ym Mrwydr Coed Llathen, aethent ymlaen i ymosod ar Gastell Talacharn, Llansteffan ac Arberth. Roedd Rhys Fychan erbyn hyn yn deyrngar i Lywelyn, a rhoddwyd ei diroedd yn ôl iddo am ei drafferth. Gwylltiodd Maredudd ap Rhys a Maredudd ap Owain gan newid eu lliwiau. Roedd Harri, brenin Lloegr, wedi dychryn gyda'r golled a gafodd ei fyddin a phenderfynodd y byddai'n ymosod eto'r flwyddyn honno ar Gymru. Ond methiant fu'r ymosodiad hwn hefyd: daliwyd y llongau cyflenwi bwyd y saeson (a oedd yn dod o iwerddon) a gorfodwyd hwy i droi yn ôl. Yr un dachteg unwaith eto; 'doedd y Saeson heb ddysgu o'u cangymeriadau ym Mrwydr Coed Llathen! Ac unwaith eto, defnyddiai'r Cymry eu bwau hirion a'u tachteg taro-a-ffoi yn llwyddiannus.
Erbyn 1258 roedd y Berfeddwlad a'r Gymru frodorol (Pura Wallia) yn ei feddiant ac roedd y rhan fwyaf o'r arweinwyr Cymreig wedi talu gwrogaeth iddo. Y flwyddyn hon, hefyd, y galwodd ei hun yn Dywysog Cymru gyfa.[7]