Rheged: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Roedd '''Rheged''' yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd oddeutu’r 6ed ganrif. Ymddengys mai Caerliwelydd oedd canolfan y deyrnas, ac roedd yn ymestyn dros...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:North Britain 547-685.png|thumb|240px|Rheged a'r teyrnasoedd o'i chwmpas]]

Roedd '''Rheged''' yn deyrnas [[Brython|Frythonig]] yn [[Yr Hen Ogledd]] oddeutu’r [[6ed ganrif]]. Ymddengys mai [[Caerliwelydd]] oedd canolfan y deyrnas, ac roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yn ogledd-orllewin [[Lloegr]] ac efallai dros ran o dde-orllewin [[Yr Alban]].
Roedd '''Rheged''' yn deyrnas [[Brython|Frythonig]] yn [[Yr Hen Ogledd]] oddeutu’r [[6ed ganrif]]. Ymddengys mai [[Caerliwelydd]] oedd canolfan y deyrnas, ac roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yn ogledd-orllewin [[Lloegr]] ac efallai dros ran o dde-orllewin [[Yr Alban]].



Fersiwn yn ôl 08:03, 10 Ebrill 2007

Rheged a'r teyrnasoedd o'i chwmpas

Roedd Rheged yn deyrnas Frythonig yn Yr Hen Ogledd oddeutu’r 6ed ganrif. Ymddengys mai Caerliwelydd oedd canolfan y deyrnas, ac roedd yn ymestyn dros ran sylweddol o’r hyn sy’n awr yn ogledd-orllewin Lloegr ac efallai dros ran o dde-orllewin Yr Alban.

Mae cyfeiriadau at Rheged ym marddoniaeth Taliesin, sy’n cynnwys cerddi i frenin Rheged, Urien Rheged, ac i’w fab Owain fab Urien. Disgrifir Urien fel arglwydd Llwyfenydd (dyffryn Afon Lyvennet heddiw), ac hefyd fel arglwydd Catraeth.

Roedd brenhinoedd Rheged yn cynnwys:

Yn ôl yr achau traddodiadol, roedd llinach arall yn disgyn o frawd Cynfarch, Elidir Lydanwyn; ei fab ef oedd Llywarch Hen.

Wedi i deynasoedd Eingl-Sacsoniaid Brynaich a Deifr uno I ddod yn deyrnas Northumbria, meddiannwyd Rheged gan Northumbria rywbryd cyn 730. Cofnodir priodas rhwng Oswiu, brenin Northumbria a thywysoges o Rheged tua 638, ac efallai iddo etifeddu’r deyrnas o ganlyniad I’r briodas yma.

Rhoddwyd enw’r deyrnas I’r Rheged Discovery Centre gerllaw Penrith, Cumbria. Mae’r enw Cumbria ei hun yn dod o’r un gwreiddyn a Cymry.