Afon Iorddonen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: sah:Иордаан
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: qu:Urdun mayu
Llinell 63: Llinell 63:
[[pnb:دریاۓ اردن]]
[[pnb:دریاۓ اردن]]
[[pt:Rio Jordão]]
[[pt:Rio Jordão]]
[[qu:Urdun mayu]]
[[ro:Râul Iordan]]
[[ro:Râul Iordan]]
[[ru:Иордан]]
[[ru:Иордан]]

Fersiwn yn ôl 15:09, 16 Tachwedd 2012

Afon Iorddonen

Afon yn y Dwyrain Canol yw Afon Iorddonen. Mae'n 360 km o hyd, ac yn llifo trwy Libanus ac Israel/Palesteina, gan ffurfio'r ffîn rhwng Israel a Gwlad Iorddonen, yna'r ffîn rhwng Gwlad Iorddonen a'r Lan Orllewinol, sydd ar hyn o bryd ym meddiant Israel, cyn llifo i mewn i'r Môr Marw.

Ceir tarddiad yn afon yn mynyddoedd Antilibanus, ar lechweddau Mynydd Hermon yn Libanus. Daw ei dŵr o dair ffynhonnell: glawogydd (yn bennaf yn y gaeaf), ffynhonnau yn tarddu o geigiau karst mynyddoedd Antilibanus, a'r eira yn meirioli ar lechweddau Mynydd Hermon yn y gwanwyn. Mae'n llifo tua'r de i mewn i Israel, ac yn llifo trwy Fôr Galilea cyn gadael y llyn gerllaw kibbutz Degania, ar ochr ddeheuol y llyn. Mae'n mynd ymlaen tua'r de i lifo i mewn i ran ogleddol y Môr Mawr. Yr unig afon o faint sy'n llifo i mewn iddi yw Afon Yarmuk, sy'n ffurfio rhan o'r ffîn rhwng Gwlad Iorddonen a Syria.

Ceir nifer fawr o gyfeiriadau ar yr Iorddonen yn y Beibl, ac oherwydd hyn, magodd bwysigrwydd crefyddol mawr. Fe'i defnyddir yn aml mewn delweddau crefyddol; gall "croesi'r Iorddonen" olygu marw ("Ar lan Iorddonen ddofn/Rwy'n oedi'n nychlyd...").