Ffredrig II, brenin Prwsia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: lij:Federigo II de Pruscia
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: oc:Frederic II de Prússia
Llinell 59: Llinell 59:
[[nn:Fredrik II av Preussen]]
[[nn:Fredrik II av Preussen]]
[[no:Fredrik II av Preussen]]
[[no:Fredrik II av Preussen]]
[[oc:Frederic II de Prússia]]
[[pl:Fryderyk II Wielki]]
[[pl:Fryderyk II Wielki]]
[[pnb:فریڈرک]]
[[pnb:فریڈرک]]

Fersiwn yn ôl 11:36, 15 Tachwedd 2012

Ffredrig Fawr

Brenin teyrnas Prwsia o 1740 hyd ei farwolaeth oedd Ffredrig II, a adwaenir hefyd fel Ffredrig Fawr neu ei lysenw der Alte Fritz (24 Ionawr 171217 Awst 1786).

Roedd yn aelod o deulu'r Hohenzollern, yn bedwerydd plentyn i Ffredrig Wiliam I, brenin Prwsia a'i wraig Sophia Dorothea o Hannover. Priododd Elisabeth Christine van Brunswijk-Bevern, ond ni chawsant blant, ac olynwyd ef gan ei nai, Ffredrig Wiliam II.

Roedd Ffredrig yn gadfridog disglair, ac hefyd yn wladweinydd galluog. Yn Rhyfel Olyniaeth Awstria, cipiodd diriogaeth Silesia, gan gynyddu poblogaeth ei deyrnas o tua 50%. Roedd Maria Theresia, ymerodres Awstria, yn ei gasau oherwydd hyn, a bu hyn yn un o achosion y Rhyfel Saith Mlynedd. Yn wyneb ymosodiadau Awstria a Rwsia, enillodd Ffredrig nifer o fuddugoliaethau syfrdanol, ond gan fod adnoddau Awstria a Rwsia gymaint mwy na'i eiddo ef, roedd ar fin cael ei orchfygu. Achubwyd ef pan fu farw tsarina Rwsia, Elisabeth I yn 1761. Roedd ei holynydd, Pedr III, yn edmygu Ffredrig yn fawr, a gwnaeth gytundeb heddwch ag ef. Wedi i Pedr gael ei lofruddio, olynwyd ef gan Catrin II, oedd hefyd yn gyfeillgar â Ffredrig.

Roedd Ffredrig yn hoff iawn o gerddoriaeth, ac nid yn unig yn noddi cyfansoddwyr ond yn cyfansoddi ei hun.