Cenhedlaeth y Bitniciaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Robot: Mae ru:Бит-поколение yn erthygl ddethol
Makecat-bot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ar:جيل بيت
Llinell 52: Llinell 52:


[[af:Beat-generasie]]
[[af:Beat-generasie]]
[[ar:جيل بيت]]
[[be-x-old:Разьбітае пакаленьне]]
[[be-x-old:Разьбітае пакаленьне]]
[[bg:Бийтпоколение]]
[[bg:Бийтпоколение]]

Fersiwn yn ôl 03:58, 14 Tachwedd 2012

Defnyddir y term Cenhedlaeth Bitniciaid (Saesneg:Beat Generation) i ddisgrifio grŵp o ysgrifennwyr Americanaidd (o dan arweiniad Allen Ginsberg a Jack Kerouac). Daethant i'r amlwg yn ystod y 1950au a mynegai eu gwaith deimlad eu bod wedi'u hynysu o'r gymdeithas dosbarth canol.[1] Weithiau, caiff y term ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio'r ffenomena diwylliannol yr ysgrifenasant amdano neu'r ysbrydolant. (Yn ddiweddarach, cawsant eu galw'n "beatniks" hefyd.) Mae'r elfennau canolog i ddiwylliant "Bitnic" yn cynnwys gwrthod gwerthoedd Americanaidd traddodiadol, arbrofi gyda chyffuriau a mathau gwahanol o rywioldeb, yn ogystal â diddordeb mewn ysbrydolrwydd gwledydd Asia.

Prif weithiau llenyddol y Genhedlaeth Bitniciaid oedd Howl (1956) gan Allen Ginsberg, Naked Lunch (1959) gan William S. Burroughs a On the Road (1957) gan Jack Kerouac. Daethpwyd ag achosion llys yn erbyn "Howl" a "Naked Lunch" am eu bod yn cael eu hystyried yn anweddus ond yn ei dro, arweiniodd hyn at ryddfrydu'r hyn a allai gael ei argraffu yn yr Unol Daleithiau. Trawsnewidiodd "On the Road" ffrind Kerouac, Neal Cassady i fod yn arwr diwylliannol i'r ieuanc. Datblygodd aelodau'r Genhedlaeth y Bitniciaid enw i'w hunain fel hedonyddion bohemaidd newydd, a ddathlai anghydffurfiaeth a chreadigrwydd byrbwyll.

Cyfarfu llenorion gwreiddiol "Cenhedlaeth y Bitniciaid" yn Ninas Efrog newydd. Yn ddiweddarach, cyfarfu'r prif gymeriadau (ag eithrio Burroughs) yn San Francisco yng nghanol y 1950au. Daethant yn gyfeillion â chymeriadau a oedd yn gysylltiedig ag Adfywiad San Francisco. Yn ystod y 1960au, gweddnewidiwyd y diwylliant bitnicaidd a oedd yn ehangu'n gyflym: symudodd y Genhedlaeth Bitnicaidd o'r neilltu a chymrodd Gwrth-ddiwylliant y Chwechdegau ei le, a newidiodd terminoleg y cyhoedd o "bitnic" i "hipi".

Ysgrifennwyr

Yn aml, defnyddiai'r wasg y term "bitnic" pan yn cyfeirio at grŵp bychan o ysgrifennwyr, ffrindiau Ginsberg, Kerouac, Burroughs ac weithiau Corso. Byddai diffiniad ychydog yn ehangach yn cynnwys beirdd tebyg eraill o Efrog Newydd, ond dal yn ystyried Adfywiad San Francisco a beirdd y Mynyddoedd Duon fel mudiadau ar wahan.

Yn ei ddiffiniad mwyaf eang, byddai'r categori "Bitnic" yn cynnwys yr is-grŵpiau hyn i gyd, a nifer o ysgrifennwyr eraill a ddaeth i amlygrwydd ar ddiwedd y 1950au a dechrau'r 1960au, a oedd yn rhannu'r un weledigaeth o ran themâu, syniadau, a nodau (ymrwymiad i fyw i'r funud, cyfansoddiad agored, agweddau gwrthrychol ac ati); er efallai mai prin oedd eu cysylltiad cymdeithasol â'r prif grŵp, ac y byddai nifer ohonynt yn gwadu eu bod yn rhan o "Genhedlaeth y Bitniciaid" o gwbl.

Prif gymeriadau ac ysgrifennwyr cynharaf y Bitniciaid oedd Jack Kerouac, William S. Burroughs, Allen Ginsberg, Neal Cassady, Gregory Corso, Herbert Huncke, Peter Orlovsky, a John Clellon Holmes. Roedd rhai o Fitniciaid craidd San Francisco yn gysylltiedig ag Adfywiad San Francisco, pobl fel Gary Snyder, Philip Whalen, Lew Welch, Lawrence Ferlinghetti, Harold Norse, Kirby Doyle, a Michael McClure. Roedd y beirdd a oedd yn gysylltiedig â Choleg y Mynydd Du yn gysylltiedig â Chenhedlaeth y Bitniciaid hefyd, megis Robert Creeley, Denise Levertov, Robert Duncan (er fod Duncan yn un o feirniaid cynharaf o'r label "Cenhedlaeth y Bitniciaid"). Yn ogystal â hyn, roedd beirdd o'r "New York School" fel Frank O'Hara, Kenneth Koch; beirdd swreal fel Philip Lamantia a Ted Joans; a beirdd y cyfeirir atynt weithiau fel "ail don" Cenhedlaeth y Bitniciaid, megis LeRoi Jones/Amiri Baraka, Diane DiPrima ac Anne Waldman.

Ymysg y bobl eraill a gysylltir â'r Bitniciaid, mae Bob Kaufman, Tuli Kupferberg, Ed Sanders, Hubert Selby, Jr., John Wieners, Jack Micheline, A. D. Winans, Ray Bremser a Bonnie Bremser/Brenda Frazer, Ed Dorn, Jack Spicer, David Meltzer, Richard Brautigan, Lenore Kandel. Roedd nifer o ysgrifennwyr benywaidd hefyd yn rhan o'r sîn, gan gynnwys Joanne Kyger, Kaye McDonough, Harriet Sohmers Zwerling, Janine Pommy Vega, Elise Cowen. Roedd rhai ysgrifennwyr ifanc yn adnabod rhai o'r ysgrifennwyr y soniwyd amdanynt uchod (fel Bob Dylan, Ken Kesey, Jim Carroll, Ron Padgett) ac weithiau cânt eu cynnwys ar y rhestr hon.

Dolenni allanol

Tudalennau cyffredinol am y Genhedlaeth Bitnicaidd

Tudalennau twristaidd Bitnicaidd

Ffotograffau

Cyfeiriadau

  1. Fargis, Paul (1998). The New York Public Library Desk Reference - 3rd Edition. Macmillan General Reference. td. 262. ISBN 0-02-862169-7
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol