Ceres (duwies): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JYBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn newid: zh:刻瑞斯 (羅馬神祇)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: vi:Ceres (thần thoại)
Llinell 63: Llinell 63:
[[tr:Ceres (mitoloji)]]
[[tr:Ceres (mitoloji)]]
[[uk:Керера]]
[[uk:Керера]]
[[vi:Ceres (thần thoại)]]
[[war:Ceres (mitolohiya)]]
[[war:Ceres (mitolohiya)]]
[[zh:刻瑞斯 (羅馬神祇)]]
[[zh:刻瑞斯 (羅馬神祇)]]

Fersiwn yn ôl 14:12, 12 Tachwedd 2012

Ceres gyda Bacchus a Ciwpid. Paentiad gan Hans von Aachen, Yr Almaen, 1600

Duwies amaethyddiaeth yn y Rhufain hynafol oedd Ceres, y ffurf Rufeinig ar y dduwies Roegaidd Demeter. Mae'n bosibl y bu Ceres yn un o dduwiesau brodorol yr Eidal yn wreiddiol, ond daw i'r amlwg yn hanes Rhufain yn 496 CC pan gyflwynwyd addoliaeth Demeter, Persephone (Lladin: Proserpina) a Dionysus (Lladin: Bacchus) adeg sychder mawer ar orchymyn offeiriaid y Sibyl.

Fel cwlt swyddogol roedd addoliad Ceres yn dilyn y patrwm Groeg yn llwyr. Roedd y Rhufeiniaid yn arfer dathlu gemau'r Cerealia ar ddechrau mis Ebrill. Roedd yna ddathliad arall ym mis Awst: byddai'r merched yn ymprydio am naw diwrnod ac wedyn yn cyflwyno offrymau blaenffrwyth y tymor i Ceres, gan wisgo coronau o ŷd.

Pobl gyffredin oedd ei haddolwyr, yn bennaf, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Yno y ceir y dystiolaeth gryfaf am y dduwies Eidalaidd hynafol ei hun. Arferai'r werin bobl offrymu hwch (porca praecadanaea) i Ceres cyn gychwyn ar y gwaith o gael y cynhaeaf i mewn ac yn cyflwyno'r blaenffrwyth ŷd i deml y dduwies.

Ffynhonnell

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).