Pirahã (iaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mattie (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Mattie (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 24: Llinell 24:


*un o'r rhestrau lleiaf o [[ffonem]]au yn unryw iaith ydan ni'n ei gwybod, a gradd yn gyfatebol uchel o amrywiad [[aloffon]]ig;
*un o'r rhestrau lleiaf o [[ffonem]]au yn unryw iaith ydan ni'n ei gwybod, a gradd yn gyfatebol uchel o amrywiad [[aloffon]]ig;

*ddwy sain anghryffredin iawn, {{IPA|[ɺ͡ɺ̼]}} a {{IPA|[t͡ʙ̥]}}.
*ddwy sain anghryffredin iawn, {{IPA|[ɺ͡ɺ̼]}} a {{IPA|[t͡ʙ̥]}};

*strwythur y [[Cymal (gramadeg)|cymalau]] sy'n hynod o gyfyngedig, a nad ydy'n caniatáu ''[[:en:Recursion#Recursion in language|recursion]]''; hynny yw, dydy ddim yn bosibl dweud, er enghraifft, "Dywedodd Iago y meddyliodd Glynn bod Mari'n credu fod Gareth yn y ddinas."


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 03:45, 7 Tachwedd 2012

Pirahã
xapaitíiso
Ynganiad IPA [ʔàpài̯ˈtʃîːsò]
Siaredir yn Brasil
Cyfanswm siaradwyr 250–380
Teulu ieithyddol Mura
Codau ieithoedd
ISO 639-1 Dim
ISO 639-2
ISO 639-3 myp
Wylfa Ieithoedd

Iaith enedigol pobl Pirahã yn yr Amazonas, Brasil ydy Pirahã (neu Pirahá, Pirahán), neu Múra-Pirahã. Mae'r bobl Pirahã'n byw ar hyd Afon Maici, sy'n llifo i fewn i'r Afon Amazonas.

Mae'r Pirahã'n unig dafodiaith yr iaith Mura sydd wedi goroesi, oherwydd fod gweddill bobl Mura yn siarad Portiwgaleg. Mae perthynasau posibl, fel yr iaith Matanawi, hefyd wedi darfod; felly mae Pirahã'n iaith ynysig, gan nad oes ganddi unrhyw gysylltiad ag ieithoedd byw eraill. Amcangyfrifir fod ganndi rhwng 250 a 380 o siaradwyr yn unig.[1] Dydy hi ddim mewn perygl enbyd o ddifodiant, gan ei bod yn iaith fyw a'i siaradwyr, gan fwyaf, yn uniaith.

Mae'r iaith Pirahã'n fwyaf enwog fel pwnc o amryw honiadau dadleuol;[1] er enghraifft, bod ganddi brawf ar gyfer y ddamcaniaeth Sapir-Whorf.[2] Mae'r ddadl yn cael ei chymhlethu gan fod dysgu'r iaith mor anodd, felly mae'r nifer o ieithyddion sydd â phrofiad maes (field experience) ynddi yn fach iawn.

Dadl ddiweddar

Mae Daniel Everett, drwy lawer o papurau ac un llyfr am yr iaith, wedi priodoli nodweddion diddorol iddi. Yn wir, mae ganddi:

  • un o'r rhestrau lleiaf o ffonemau yn unryw iaith ydan ni'n ei gwybod, a gradd yn gyfatebol uchel o amrywiad aloffonig;
  • ddwy sain anghryffredin iawn, [ɺ͡ɺ̼] a [t͡ʙ̥];
  • strwythur y cymalau sy'n hynod o gyfyngedig, a nad ydy'n caniatáu recursion; hynny yw, dydy ddim yn bosibl dweud, er enghraifft, "Dywedodd Iago y meddyliodd Glynn bod Mari'n credu fod Gareth yn y ddinas."

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Nevins, Andrew, David Pesetsky a Cilene Rodrigues (2009). "Piraha Exceptionality: a Reassessment", Language, 85.2, tud. 355–404.
  2. Michael C. Frank, Daniel L. Everett, Evelina Fedorenko ac Edward Gibson (2008), Number as a cognitive technology: Evidence from Pirahã language and cognition. Cognition, Volume 108, Issue 3, Medi 2008, tud. 819–824.
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.