Sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Canlyniadau: galw am ymchwiliad newydd
Llinell 15: Llinell 15:


== Canlyniadau ==
== Canlyniadau ==
Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad i Adroddiad Waterhouse.

Yn Nhachwedd 2012 galwodd Steve Meesham, dyn sy'n honni iddo gael ei gam-drin yn rhywiol gan wleidydd Ceidwadol blaenllaw, am ymchwiliad newydd. Mewn cyfweliad ar y rhaglen [[BBC]] ''[[Newsnight]]'', dywedodd fod y gwleidydd wedi ei gam-drin yn fwy na dwsin o weithiau, ond ni chafodd enwi'r gwleidydd ar y rhaglen.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/20191048 |teitl=Dioddefwr yn galw am ymchwiliad newydd |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=3 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref><ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/90517-dioddefwr-trais-rhywiol-yn-enwi-tori-blaenllaw |teitl=Dioddefwr trais rhywiol yn enwi Tori blaenllaw |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=3 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref> Cefnogir ymchwiliad newydd gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/90582-pwyso-am-ymchwiliad-newydd-i-gylch-o-bedoffiliaid |teitl=Pwyso am ymchwiliad newydd i gylch o bedoffiliaid |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=4 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref>

{{eginyn-adran}}
{{eginyn-adran}}



Fersiwn yn ôl 10:07, 4 Tachwedd 2012

Sgandal dros gamdrin plant yn rhywiol mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru oedd sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru, a ganolbwyntiodd ar achosion yng Nghlwyd a Gwynedd o 1974 hyd 1990. Penodwyd Syr Ronald Waterhouse i arwain ymchwiliad ym 1997, a chyflwynwyd adroddiad Waterhouse yn 2000. Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad.

Cefndir

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Ymchwiliad Waterhouse

Gorchmynwyd ymchwiliad gan William Hague, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ym 1996 yn sgil penderfyniad gan Gyngor Sir Clwyd i wrthod cyhoeddi adroddiad gan ymchwiliad llai. Gwnaed penderfyniad y Cyngor ar sail cyngor cyfreithiol a rybuddiodd y bydd yr adroddiad yn annog achosion llys a cheisiadau am iawndal.[1]

Clywodd y tribiwnlys dros 700 o honiadau yn erbyn 170 o bobl mewn 40 o gartrefi, dros gyfnod o 20 mlynedd.[2] Parhaodd y tribiwnlys am 203 o ddiwrnodau a chlywodd dystiolaeth gan 575 o dystion, gan gynnwys 259 o achwynwyr a honnodd iddynt gael eu cam-drin mewn gofal. Archwiliodd y tribiwnlys 9,500 o ffeiliau'r gwasanaethau cymdeithasol, 3,500 o ddatganiadau i'r heddlu a 43,000 o dudalennau o gwynion.[1]

Adroddiad Waterhouse

Yn Chwefror 2000 cyhoeddwyd yr adroddiad, "Ar Goll mewn Gofal", oedd yn hanner miliwn o eiriau ac yn cynnwys 72 o argymhellion. Galwodd yr adroddiad am "ad-drefnu'r system gofal yn llwyr", a beirniadodd weithwyr cymdeithasol, staff cartrefi preswyl, awdurdodau lleol, yr heddlu a'r Swyddfa Gymreig.[3] Ymhlith yr argymhellion oedd i benodi Comisiynydd Plant i Gymru, i awdurdodau lleol benodi Swyddog Cwynion i Blant, i awdurdodau lleol weithredu trefn canu cloch, i weithwyr cymdeithasol ymweld â phlant yn eu gofal bob dau fis, i adolygu'r rheolau parthed gofal preswyl preifat ac i adolygu anghenion a chostau gwasanaethau plant yn y Deyrnas Unedig.[4]

Croesawyd casgliadau'r adroddiad gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, John Owen, ond datganodd na fydd yr heddlu yn erlyn yr un berson mewn cysylltiad â'r honiadau.[4]

Canlyniadau

Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad i Adroddiad Waterhouse.

Yn Nhachwedd 2012 galwodd Steve Meesham, dyn sy'n honni iddo gael ei gam-drin yn rhywiol gan wleidydd Ceidwadol blaenllaw, am ymchwiliad newydd. Mewn cyfweliad ar y rhaglen BBC Newsnight, dywedodd fod y gwleidydd wedi ei gam-drin yn fwy na dwsin o weithiau, ond ni chafodd enwi'r gwleidydd ar y rhaglen.[5][6] Cefnogir ymchwiliad newydd gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.[7]

   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Questions and answers that surround a catalogue of abuse against children. The Guardian (16 Chwefror 2000). Adalwyd ar 24 Hydref 2012.
  2.  Cynnig llais i blant mewn gofal. BBC (13 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
  3.  Galwad am 'ad-drefnu'r system gofal yn llwyr'. BBC (15 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
  4. 4.0 4.1  Dim erlyn, meddai'r heddlu, ar ôl adroddiad camdrin. BBC (16 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
  5.  Dioddefwr yn galw am ymchwiliad newydd. BBC (3 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
  6.  Dioddefwr trais rhywiol yn enwi Tori blaenllaw. Golwg360 (3 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
  7.  Pwyso am ymchwiliad newydd i gylch o bedoffiliaid. Golwg360 (4 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.

Darllen pellach

  • Corby, B., Doig, A. a Roberts, V. Public Inquiries into Abuse of Children in Residential Care (Llundain, Jessica Kingsley, 2001).
Baner CymruEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.