Francisco Pizarro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn newid: el:Φρανθίσκο Πιθάρρο |
JYBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn newid: ar:فرانثيسكو بيثارو |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
[[Categori:Fforwyr|Pizarro]] |
[[Categori:Fforwyr|Pizarro]] |
||
[[ar: |
[[ar:فرانثيسكو بيثارو]] |
||
[[ast:Francisco Pizarro]] |
[[ast:Francisco Pizarro]] |
||
[[az:Fransisko Pizarro]] |
[[az:Fransisko Pizarro]] |
Fersiwn yn ôl 18:54, 2 Tachwedd 2012
Fforiwr a conquistador Sbaenig oedd Francisco Pizarro González (16 Mawrth 1476 - 26 Gorffennaf 1541). Mae'n fwyaf adnabyddus fel y gŵr oedd yn gyfrifol am ddinistrio Ymerodraeth yr Inca.
Ganed Francisco Pizarro yn Trujillo (Extremadura). Roedd yn blentyn gordderch i hidalgo o'r enw Gonzalo Pizarro Rodríguez de Aguilar a merch o'r wlad,Francisca González y Mateos. Magwyd Pizarro yn anllythrennog a bu'n geidwad moch am gyfnod. Aeth i Dde America am y tro cyntaf yn 1502.
Cyrhaeddodd y Sbaenwyr dan Pizarro i diriogaethau'r Inca yn 1526. Roedd yn awnlwg ei bod yn wlad gyfoethog, a theithiodd Pizarro i Sbaen i gael hawl i'w goresgyn. Dychwelodd yn 1532, pan oedd yr ymerodraeth ar ganol rhyfel cartref rhwng dau fab Huayna Capac, Huascar ac Atahualpa. Roedd hefyd wedi ei gwanychu gan y frech wen, oedd wedi lledu o ganolbarth America. Dim ond 180 o ddynion oedd gan Pizarro, ond llwyddodd i goncro'r ymerodraeth. Dienyddiwyd Atahualpa yn Awst 1533.
Ar 18 Ionawr 1535, sefydlodd Pizarro ddinas Ciudad de los Reyes, a ddaeth yn fuan i'w galw yn Lima.