Llenyddiaeth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Rhestr Awduron Cymru
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 29: Llinell 29:


==Cyhoeddiadau==
==Cyhoeddiadau==
Mae'r Academi Gymreig yn cyhoeddi’r cylchgrawn llenyddol Taliesin a a gweithiau llenyddol gwreiddiol. Defnyddiodd yr Academi Wasg Prifysgol Cymru i gyhoeddi’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a Geiriadur yr Academi. Trwy gyfrwng Gwasg Prifysgol Rhydychen cyhoeddwyd ''The Oxford Companion to the Literature of Wales''. Mae fersiwn diwygiedig o’r gwaith pwysig hwn ar gael bellach gan Wasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg yn 1997 a'r fersiwn newydd Saesneg yn 1998.<ref>[http://www.llenyddiaethcymru.org/cyhoeddiadau/ Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd Tachwedd 2012]</ref>
Mae'r Academi Gymreig yn cyhoeddi’r cylchgrawn llenyddol [[Taliesin (cylchgrawn)]] a a gweithiau llenyddol gwreiddiol. Defnyddiodd yr Academi Wasg Prifysgol Cymru i gyhoeddi’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a Geiriadur yr Academi. Trwy gyfrwng Gwasg Prifysgol Rhydychen cyhoeddwyd ''The Oxford Companion to the Literature of Wales''. Mae fersiwn diwygiedig o’r gwaith pwysig hwn ar gael bellach gan Wasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg yn 1997 a'r fersiwn newydd Saesneg yn 1998.<ref>[http://www.llenyddiaethcymru.org/cyhoeddiadau/ Gwefan Llenyddiaeth Cymru; adalwyd Tachwedd 2012]</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 10:05, 2 Tachwedd 2012

Logo Llenyddiaeth Cymru
Logo diweddaraf Yr Academi Gymreig
Hen logo'r Academi

Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru yw Llenyddiaeth Cymru (Saesneg: Literature Wales) ac ariannir hi yn bennaf o ffynonellau cyhoeddus. Mae'n cyflawni hyn drwy gynnal, ymhlith pethau eraill, cyrsiau, cynadleddau, darlleniadau, cystadleuthau a gweinyddu anrhydeddau (megis Llyfr y Flwyddyn). Nhw sydd hefyd yn gyfrifol am Gystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol Caerdydd. Y Prif Weithredwr ers Tachwedd 2011 yw Lleucu Siencyn [1]

Hanes

Sefydlwyd yr Academi Gymreig, neu'r Academi fel y'i gelwyd yn gyffredinol, ym 1959 gan Bobi Jones a Waldo Williams. Dewiswyd yr ansoddair Cymreig yn hytrach na Chymraeg er sicrhau y byddai awduron Cymreig a oedd yn ysgrifennu drwy gyfrwng y Saesneg yn gallu bod yn aelodau. Ym 1968, crëwyd adran benodol i'r Saesneg gan Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru ar y pryd, sef Meic Stephens, ar y cyd gydag aelodau o’r Guild of Welsh Writers.

Yr Academi a gyhoeddodd Gwyddoniadur Cymru yn 2008, ac fe'i gyhoeddir yn Gymraeg ac yn Saesneg gyda chefnogaeth ariannol y Loteri. Roeddent eisioes wedi cyhoeddi Geiriadur yr Academi ym 1995.

Ymunodd yr Academi â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd i greu sefydliad cenedlaethol newydd a elwir Llenyddiaeth Cymru yn 2011.[2]

Gwobr Llyfr y Flwyddyn

Dyfernir gwobrwyon Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, i’r llyfrau gorau yn y Gymraeg a’r Saesneg ym maesydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol. Mae'r gwobrwyon yn cael eu rhoi i’r llyfrau gorau a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr. Yn 2012, fe wobrwyir cyfrolau Cymraeg a Saesneg a gyhoeddwyd yn ystod 2011 o fewn tri categori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Teitl y wobr farddoniaeth Saesneg, yw Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias.

Gweithgareddau

Mae eu gweithgareddau'n cynnwys;

Cyhoeddiadau

Mae'r Academi Gymreig yn cyhoeddi’r cylchgrawn llenyddol Taliesin (cylchgrawn) a a gweithiau llenyddol gwreiddiol. Defnyddiodd yr Academi Wasg Prifysgol Cymru i gyhoeddi’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a Geiriadur yr Academi. Trwy gyfrwng Gwasg Prifysgol Rhydychen cyhoeddwyd The Oxford Companion to the Literature of Wales. Mae fersiwn diwygiedig o’r gwaith pwysig hwn ar gael bellach gan Wasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg yn 1997 a'r fersiwn newydd Saesneg yn 1998.[3]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.