Kolkata: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: pa:ਕੋਲਕਾਤਾ
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ilo:Kolkata
Llinell 86: Llinell 86:
[[hy:Կալկաթա]]
[[hy:Կալկաթա]]
[[id:Kolkata]]
[[id:Kolkata]]
[[ilo:Kolkata]]
[[io:Kalkuta]]
[[io:Kalkuta]]
[[is:Kolkata]]
[[is:Kolkata]]

Fersiwn yn ôl 03:11, 2 Tachwedd 2012

Map yn dangos lleoliad Calcutta yn India

Mae Kolkata (hen enw Calcutta) yn ddinas anferth yng ngogledd-ddwyrain India, prifddinas talaith Gorllewin Bengal. Ei phoblogaeth swyddogol yw 12 miliwn (1999), ond cred llawer o bobl fod y ffigwr hyd at dair gwaith hynny mewn gwirionedd.

Daearyddiaeth

Mae'r ddinas yn sefyll, neu'n hytrach yn gorweddian, ar lan ddwyreiniol Afon Hooghly (yn swyddogol, nid yw tref anferth Howrah â'i slymiau anhygoel, ar y lan orllewinol, yn rhan o ddinas Kolkata ei hun).

Hanes

Parc y Maidan yn Chowringhi, yng nghanol Calcutta

Yn ôl safonau India, nid yw Kolkata'n ddinas hen iawn. Cafodd ei sefydlu tua 300 mlynedd yn ôl gan y Prydeinwyr. Hyd 1911 Calcutta oedd prifddinas yr India Brydeinig. Yn 1686 rhoddodd y Prydeinwyr y gorau i fyw yn ei bost masnachu yn Hooghly, 36km i fyny'r afon, a symudasant i dri phentref bach - Sutanati, Govindpur a Kalikata. Y pentref olaf a roddodd ei enw i'r ddinas. Yn 1696 codwyd caer fach ar safle BBD Bagh ac yn 1698 rhoddodd ŵyr Aurangzeb ganiatâd swyddogol i'r Prydeinwyr fyw yno.

Tyfodd y pentrefi'n dref bur sylweddol fesul dipyn. Yn 1756 ymosododd Nawab Murshidabad ar y dref. Dihangodd y mwyafrif o'r trigolion Prydeinig ond daliwyd rhai ohonynt a'u carcharu mewn selar ddanddaear lle bu farw nifer dros nos; dyma'r Twll Du Calcutta enwog. Yn 1757 cipiodd Clive o India y dref yn ôl a threfniwyd heddwch â'r nawab. Yn ddiweddarqch yn yr un flwyddyn cododd Siraj-ud-daula yn erbyn y Prydeinwyr ond gorchfygwyd ef a'i gynghreiriaid Ffrengig ym mrwydr dynghedfennol Plassey. Mewn canlyniad codwy caer newydd, gryfach o lawer, a gwnaethpwyd Calcutta'n brifddinas India.

Tyfodd yn gyflym yn hanner cyntaf y 19eg ganrif. Ym mlynyddoedd olaf y Raj roedd Calcutta yn ganolfan bwysig i ymyrchwyr dros annibyniaeth i India ac felly symudwyd y brifddinas i Ddelhi. Ar ôl annibyniaeth daeth nifer o ffoadurion o ddwyrain Bengal (Bangladesh heddiw) i Galcutta. Mae nifer o bobl o'r cefn gwlad yn symud i'r ddinas bob blwyddyn hefyd ac mae'r boblogaeth yn cynyddu mewn canlyniad. Erbyn heddiw mae gor-boblogaeth yn broblem anferth yn y ddinas.

"Kolkata" fu'r enw mewn Bengaleg erioed, ond yn 2001 newidiwyd yr enw yn swyddogol o "Calcutta" i "Kolkata".

Atyniadau

Ymhlith atyniadau Calcutta gellid crybwyll Amgueddfa India, Calcutta a Teml Kalighat, Pont Howrah, y Maidan (parc), y Gerddi Botanegol a'r Farchnad Newydd. Yng nghanol y ddinas rhan o'r awyrgylch yw'r hen adeiladau crand o gyfnod y Raj, er enghraifft swyddfeydd llywodraeth Gorllewin Bengal ar sgwâr hanesyddol BBD Bagh (Sgwâr Dalhousie).

Enwogion

Dolenni allanol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol