Tŵr Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: az:London qalası
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: yi:טורעם פון לאנדאן
Llinell 84: Llinell 84:
[[uk:Тауер]]
[[uk:Тауер]]
[[vi:Tháp Luân Đôn]]
[[vi:Tháp Luân Đôn]]
[[yi:טורעם פון לאנדאן]]
[[zh:伦敦塔]]
[[zh:伦敦塔]]

Fersiwn yn ôl 16:56, 31 Hydref 2012

Tŵr Llundain - y Tŵr Gwyn a godwyd gan Gwilym Goncwerwr

Heneb hanesyddol yng nghanol Llundain yw Tŵr Llundain (Saesneg Tower of London). Saif ar lan ogleddol Afon Tafwys o fewn bwrdeistref Tower Hamlets yn gyfagos i Tower Hill. Prif adeilad y tŵr yw'r Tŵr Gwyn, y gaer betryal wreiddiol a adeiladwyd gan Gwilym Gwncwerwr ym 1078. Mae'r tŵr yn ei gyfanswm yn cynnwys nifer o adeiladau eraill o fewn dau gylch o fagwyr amddiffynnol a ffos. Defnyddid y tŵr fel caer, palas brenhinol ac fel carchar, yn enwedig ar gyfer carcharorion uchel eu statws.

Gruffudd ap Llywelyn

Cafodd Gruffudd ap Llywelyn, fab Llywelyn Fawr, ei garcharu yn Nhŵr Llundain. Ceisiodd Gruffudd ddianc o'r tŵr. Roedd yn cael ei ddal mewn stafell gymharol foethus ar un o'r lloriau uchaf. Dywedir iddo syrthio i'w farwolaeth wrth geisio ddringo i lawr a dianc, a hynny ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1244.

Cofnododd yr hanesydd Mathew Paris y digwyddiad:

'Tra'r oedd dis ffawd yn dylanwadu ar ddigwyddiadau'r byd fel hyn, yr oedd Gruffudd, mab hynaf Llywelyn, Tywysog Gwynedd, o hyd yn gaeth yng ngharchar yn Nhŵr Llundain... Un noswaith, ar ôl iddo dwyllo'i geidwaid, a phlethu cortyn o gynfasau'i wely a thapestrïau a llieiniau bwrdd, fe'i gollyngodd ei hun, gyda'r rhaff hon, yn syth i lawr o ben y Tŵr. Ac yntau wedi dod i lawr beth ffordd, fe dorrodd y cortyn dan bwysau ei gorff, oherwydd yr oedd ef yn ddyn corfforol a helaeth ei faint, a syrthiodd yntau o uchder mawr; a thrwy hyn fe dorrodd ei wddf a marw.'[1]

Cyfeiriadau

  1. Cyfieithiad o'r Lladin yn, David Fraser, Yr Amddiffynwyr (Caerdydd, 1967), t. 118.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.