Mewnfudo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn newid: hr:Useljeništvo |
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: bar:Zuagroaste |
||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
[[ar:هجرة]] |
[[ar:هجرة]] |
||
[[az:İmmiqrasiya]] |
[[az:İmmiqrasiya]] |
||
[[bar:Zuagroaste]] |
|||
[[bg:Имиграция]] |
[[bg:Имиграция]] |
||
[[bn:অভিবাসন]] |
[[bn:অভিবাসন]] |
Fersiwn yn ôl 05:59, 29 Hydref 2012
Mewnfudo yw symud i mewn i wlad i fyw ynddi, gan unigolyn neu unigolion o wlad arall. Oherwydd y problemau cymdeithasol sy'n gallu codi pan fo nifer fawr o bobl yn mewnfudo mae'n bwnc llosg mewn sawl gwlad.
Mewn cyd-destun Prydeinig, ac yn arbennig yn achos Lloegr, mae nifer o bobl yn pryderu am y mewnfudo o wledydd Asiaidd a'r Caribî. Mae hynny wedi bod yn faes ffrwythlon i fudiadau asgell-dde fel y BNP a UKIP sy'n ceisio elwa ar hiliaeth. Mae ymateb llywodraeth Prydain i hyn wedi amrywio dros y blynyddoedd. Dadleuodd Tony Blair fod angen rheoli mewnfudo, yn arbennig yn achos ceiswyr noddfa. Cymhlethir y sefyllfa gan y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth a'r alwad am gyflwyno cardiau cydnabod.
Yng Nghymru mae'r ymateb yn wahanol. Y pryder yng Nghymru yw bod nifer o fewnduwyr o Loegr yn symud i mewn i'r Fro Gymraeg gan beryglu dyfodol yr iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd olaf trwy beidio cymathu â'r gymuned a chodi prisiau tai y tu hwnt i gyrraedd pobl leol. Yn wahanol i Loegr mae'r ymateb cryfaf i'r sefyllfa yn dod o'r asgell-chwith genedlaetholgar yn hytrach na'r asgell-dde. Un o'r grwpiau amlycaf yn y cyd-destun hwn yw'r mudiad Cymuned.
Mewnfudo i America o Gymru
Yn y 18ed a'r 19eg ganrif cafwyd mewnfudo i America o Gymru. Symudodd llawer o Grynwyr Cymreig i Bennsylvania.