Mons veneris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dadwneud y golygiad 1123748 gan MirrorMann (Sgwrs | cyfraniadau) |
B tynnu nodyn eginyn |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Yn y diwylliant poblogaidd ceir sawl enw ar y ''mons veneris''. |
Yn y diwylliant poblogaidd ceir sawl enw ar y ''mons veneris''. |
||
{{eginyn anatomeg}} |
|||
[[Categori:Anatomeg ddynol]] |
[[Categori:Anatomeg ddynol]] |
||
[[Categori:Rhyw]] |
[[Categori:Rhyw]] |
Fersiwn yn ôl 02:04, 29 Hydref 2012
Mewn anatomeg ddynol y mons veneris, y mons pubis neu'r mons Venus (gair Lladin sy'n golygu Mwnt Gwener) ydy'r bryncyn bychan o feinwe a braster yn y rhan lle gorwedd y cedor ac asgwrn y piwbis. Mae'n fwy amlwg mewn merched nag ydyw mewn dynion a dydy'r term mons veneris ddim yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r rhan yma o gorff dynion fel rheol, ond mons pubis (Cymreigiad: mons piwbis, "mwnt y piwbis"). Ar ôl glasoed, pan fo llif yr estrogen yn gryf, caiff ei orchuddio â blewiach mân.
Mewn oedolyn benywaidd, mae'r mons yn ymrannu'n labia majora ar bopty'r hollt hwnnw a elwir hollt Gwener sy'n amgylchynnu'r clitoris, agoriad y wain a strwythurau eraill o fewn y fylfa. Mae'r mons veneris felly'n gwthio'r fylfa allan oddi wrth y corff pan fo'r ferch yn sefyll.
Nid yw ei bwrpas yn wybodus i'r anatomegydd, ond un posibilrwydd yw ei fod yn amlygu'r organau rhywiol, fel modd o geisio denu cymar.
Yn y diwylliant poblogaidd ceir sawl enw ar y mons veneris.