Georgia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: ne:जर्जिया (missing)
Llinell 283: Llinell 283:
[[nah:Georgia]]
[[nah:Georgia]]
[[nds:Georgien]]
[[nds:Georgien]]
[[ne:जर्जिया]]
[[new:ज्योर्जिया]]
[[new:ज्योर्जिया]]
[[nl:Georgië]]
[[nl:Georgië]]

Fersiwn yn ôl 08:18, 25 Hydref 2012

Mae'r erthygl yma am y wlad. Am y dalaith o'r Unol Daleithiau, gweler Georgia (talaith UDA)
საქართველო
Sakartvelo

Georgia
Baner Georgia Arfbais Georgia
Baner Arfbais
Arwyddair: Georgeg: ძალა ერთობაშია

(Trawslythreniad: Dzala ertobashia
(cyfieithiad: "Mewn undeb mae nerth")

Anthem: Tavisupleba
("Rhyddid")
Lleoliad Georgia
Lleoliad Georgia
Prifddinas Tbilisi
Dinas fwyaf Tbilisi
Iaith / Ieithoedd swyddogol Georgeg
Llywodraeth Gweriniaeth
 • Arlywydd
 • Prif Weinidog
Mikheil Saakashvili
Vano Merabishvili
Annibyniaeth

Dyddiad
Oddi ar yr Undeb Sofietaidd
9 Ebrill 1991
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
69,700 km² (11af)
Dim
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Cyfrifiad 2002
 - Dwysedd
 
4,371,5351 (117fed)
4,474,000
67/km² (1290fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$15.55 biliwn (122fed)
$3,300 (120fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2003) 0.732 (100fed) – canolig
Arian cyfred Lari Georgaidd (GEL)
Cylchfa amser
 - Haf
MSK (UTC+4)
(UTC+4)
Côd ISO y wlad .ge
Côd ffôn +995
1 heb gynnwys Abkhazia a De Ossetia

Gwlad ar lannau dwyreiniol y Môr Du yn y Cawcasws yw Georgia. Roedd hi'n rhan o'r Undeb Sofietaidd cyn ennill ei hannibyniaeth ym 1991. Y gwledydd cyfagos yw Rwsia i'r gogledd, Twrci i'r de-orllewin, Armenia i'r de ac Azerbaijan i'r dwyrain. Rhwng 1990 a 1995, yr enw swyddogol ar y wlad oedd Gweriniaeth Georgia. Tbilisi yw prifddinas y wlad.

Cenedl-wladwriaeth ddemocrataidd unedol yw Georgia ac mae treftadaeth hanesyddol a diwyllianol hynafol ganddi. Â gwareiddiad Georgaidd yn ôl mor bell â thair mil o flynyddoedd. Yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol, ystyrir Georgia yn rhan o Ewrop; fodd bynnag mae dosbarthu'r wlad fel un Ewropeaidd neu beidio yn dibynnu ar y ffynhonnell. Weithiau fe'i gelwir yn genedl draws-gyfandirol sy'n rhannol yn Ewrop ac yn rhannol yn Asia.

Daearyddiaeth






















Hanes Cynnar Georgia tan 1991

Cwpan Bedia o'r Brenin Bagrat III, 999 AD
Hen Georgia - Colchis ac Iberia

Gelwid Georgia Colchis ac Iberia gan y Groegwyr. Roedd y wlad yn frenhiniaeth sefydlog yn y canrifoedd CC. Yma oedd cartref y Cnu Aur a geisiodd Jason a'i Argonautiaid.

Brenn Iberia Mirian III sefydlodd Cristnogaeth yn Georgia yn AD 327.
Brenin David yr Adeiladwr, mynachlog Shio-Mgvime
Brenhines Tamar a'i thad George III o'r mynachlogdy Betani)
Brenhines Tamar ar furlun o fynachlogdy Vardzia
Brenhiniaeth Georgia ar ei orau, 1184-1225


Daeth y wlad dan y Rhufeinwyr fel 'cleient' am 400 mlynedd. Wedi derbyn cristnogaeth tyfodd yn wlad annibynnol. Ildiodd y wlad i'r Arabiaid yn y 7ed ganrif am gyfnod, Yn AD 813, tywysog Ashot I dechreodd y dynasti Bagrationi a barhaodd am 1,000 mlynedd. Unodd gorllewin a dwyrain Georgia dan Bagrat V (1027-72). Erbyn y 12ed ganrif roedd Georgia yn rheoli dros Armenia, arfordir gogledd Twrci a rhan o Azerbaijan, dyma'r "Oes Aur' dan y brenin David a'i Wyres y Frenhines Tamar.


Cymerwyd Tblisi yn 1226 gan y Brenin Kwarezmid (Persiaid) Mingburnu cyn syrthio i'r Mongoliaid yn 1236 ac ailfeddianwyd y wlad dan Timur yn 1386 a 1404. O'r 16ed ganrif ymlaen rhannwyd Georgia rhwng Byzantium a Persia. Arhosodd dan Persia tan i'r brenin Heraclius II dod i rym fel brenin annibynnol yn 1762.


Ugain mlynedd ar ol i Heraclius dod yn frenin daeth dylanwad y Rwsiaid yn gryfach, sefyllfa a barodd ddwy ganrif tan 1991 - heblaw cyfnod byrhoedlog 1918-21. O fewn ffiniau y Georgia presennol mae tiroedd a roddodd i Georgia gan y Rwsiaid (ond bod nhw i gyd wedi dod dan Georgia yn y 12ed ganrif hefyd.)

























Hanes Diweddar

Ar 9 Ebrill, 1991 yn syth ar ôl datgymalu'r USSR, cyhoeddodd Georgia ei hannibyniaeth. Ar 26 Mai, 1991 etholwyd Zviad yn Arlywydd ond cododd coup d'état rhwng 22 Rhagfyr 1991 a 6 Ionawr 1992 gyda rhyfel cartref a barodd hyd at 1995. Dychwelodd Eduard Shevardnadze yn ei ôôl i Georgia yn 1992 ac etholwyd ef yn Arlywydd yn 1995.

Yn fuan wedyn dechreuodd dwy ranbarth o'r wlad: sef Abkhazia a De Ossetia gweryla â'r llywodraeth ganolog a throdd cweryl yn ymladd. Roedd Rwsia'n ochri gyda'r ddwy ranbarth a oedd yn ceisio eu hanibyniaeth eu hunain. Llwyddodd y ddwy i gael lled-annibyniaeth oddi wrth Georgia. Yn y rhyfel hyn, lladwyd dros 250,000 o Georgiaid yn y ddwy ranbarth.

Yn 2003, yn dilyn twyll yn yr etholiadau, gwthiwyd Shevardnadze (a etholwyd yn 2000) o'r neilltu gan Chwyldro'r Rhosod ac etholwyd Mikheil Saakashvili yn ei le yn 2004.

Gan fod y wlad wedi ochri gyda Chechniya yn yr Ail Ryfel Chechen, dirywiodd ei pherthynas gyda Rwsia. Ar yr un pryd, dechreuodd yr Unol Daleithiau ei harfogi.

Ar 8 Awst, 2008, rholiodd tanciau Rwsia i fewn i Dde Ossetia ac Abkhazia mewn Rhyfel De Ossetia gan ymosod o'r awyr ar fyddin Georgia. Ar 12 Awst cytunodd Arlywydd Rwsia, sef Dmitri Medvedev, ac Arlywydd Ffrainc, sef Nicolas Sarkozy, ar gynllun heddwch chwe phwynt. Cytunodd Arlywydd Georgia gyda'r chwe phwynt:

  1. Dim troi at drais na chymorth treisgar gwledydd eraill
  2. Rhoi'r gorau i'r ymladd o'r ddwy ochor
  3. Caniatáu cymorth dyngarol
  4. Milwyr Georgia i symud yn ôl i'w gwersylloedd arferol
  5. Milwyr Rwsia i symud yn ôl i ble roeddent cyn y gwrthdaro.
  6. Agor trafodaethau rhyngwladol i sicrhau heddwch a diogelwch pobol y ddwy ranbarth.

Diwylliant

Economi

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Georgia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol