Sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
darllen pellach |
→Ymchwiliad Waterhouse: niferoedd |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
== Ymchwiliad Waterhouse == |
== Ymchwiliad Waterhouse == |
||
Gorchmynwyd ymchwiliad gan [[William Hague]], [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]], ym 1996 yn sgil penderfyniad gan [[Cyngor Sir Clwyd|Gyngor Sir Clwyd]] i wrthod cyhoeddi adroddiad gan ymchwiliad llai. Gwnaed penderfyniad y Cyngor ar sail cyngor cyfreithiol a rybuddiodd y bydd yr adroddiad yn annog achosion llys a cheisiadau am iawndal.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.guardian.co.uk/uk/2000/feb/16/1 |teitl=Questions and answers that surround a catalogue of abuse against children |gwaith=[[The Guardian]] |dyddiad=16 Chwefror 2000 |dyddiadcyrchiad=24 Hydref 2012 }}</ref> |
Gorchmynwyd ymchwiliad gan [[William Hague]], [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]], ym 1996 yn sgil penderfyniad gan [[Cyngor Sir Clwyd|Gyngor Sir Clwyd]] i wrthod cyhoeddi adroddiad gan ymchwiliad llai. Gwnaed penderfyniad y Cyngor ar sail cyngor cyfreithiol a rybuddiodd y bydd yr adroddiad yn annog achosion llys a cheisiadau am iawndal.<ref name=Guardian>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.guardian.co.uk/uk/2000/feb/16/1 |teitl=Questions and answers that surround a catalogue of abuse against children |gwaith=[[The Guardian]] |dyddiad=16 Chwefror 2000 |dyddiadcyrchiad=24 Hydref 2012 }}</ref> |
||
Clywodd y tribiwnlys dros 700 o honiadau yn erbyn 170 o bobl mewn 40 o gartrefi, dros gyfnod o 20 mlynedd.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_641000/641827.stm |teitl=Cynnig llais i blant mewn gofal |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=13 Chwefror 2000 |dyddiadcyrchiad=23 Hydref 2012 }}</ref> |
Clywodd y tribiwnlys dros 700 o honiadau yn erbyn 170 o bobl mewn 40 o gartrefi, dros gyfnod o 20 mlynedd.<ref>{{dyf gwe |url=http://news.bbc.co.uk/hi/english/newyddion/newsid_641000/641827.stm |teitl=Cynnig llais i blant mewn gofal |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=13 Chwefror 2000 |dyddiadcyrchiad=23 Hydref 2012 }}</ref> Parhaodd y tribiwnlys am 203 o ddiwrnodau a chlywodd dystiolaeth gan 575 o dystion, gan gynnwys 259 o achwynwyr a honnodd iddynt gael eu cam-drin mewn gofal. Archwiliodd y tribiwnlys 9,500 o ffeiliau'r gwasanaethau cymdeithasol, 3,500 o ddatganiadau i'r heddlu a 43,000 o dudalennau o gwynion.<ref name=Guardian/> |
||
=== Adroddiad Waterhouse === |
=== Adroddiad Waterhouse === |
Fersiwn yn ôl 23:32, 23 Hydref 2012
Sgandal dros gamdrin plant yn rhywiol mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru oedd sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru, a ganolbwyntiodd ar achosion yng Nghlwyd a Gwynedd o 1974 hyd 1990. Penodwyd Syr Ronald Waterhouse i arwain ymchwiliad ym 1997, a chyflwynwyd adroddiad Waterhouse yn 2000. Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad.
Cefndir
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Ymchwiliad Waterhouse
Gorchmynwyd ymchwiliad gan William Hague, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ym 1996 yn sgil penderfyniad gan Gyngor Sir Clwyd i wrthod cyhoeddi adroddiad gan ymchwiliad llai. Gwnaed penderfyniad y Cyngor ar sail cyngor cyfreithiol a rybuddiodd y bydd yr adroddiad yn annog achosion llys a cheisiadau am iawndal.[1]
Clywodd y tribiwnlys dros 700 o honiadau yn erbyn 170 o bobl mewn 40 o gartrefi, dros gyfnod o 20 mlynedd.[2] Parhaodd y tribiwnlys am 203 o ddiwrnodau a chlywodd dystiolaeth gan 575 o dystion, gan gynnwys 259 o achwynwyr a honnodd iddynt gael eu cam-drin mewn gofal. Archwiliodd y tribiwnlys 9,500 o ffeiliau'r gwasanaethau cymdeithasol, 3,500 o ddatganiadau i'r heddlu a 43,000 o dudalennau o gwynion.[1]
Adroddiad Waterhouse
Yn Chwefror 2000 cyhoeddwyd yr adroddiad, "Ar Goll mewn Gofal", oedd yn hanner miliwn o eiriau ac yn cynnwys 72 o argymhellion. Galwodd yr adroddiad am "ad-drefnu'r system gofal yn llwyr", a beirniadodd weithwyr cymdeithasol, staff cartrefi preswyl, awdurdodau lleol, yr heddlu a'r Swyddfa Gymreig.[3] Ymhlith yr argymhellion oedd i benodi Comisiynydd Plant i Gymru, i awdurdodau lleol benodi Swyddog Cwynion i Blant, i awdurdodau lleol weithredu trefn canu cloch, i weithwyr cymdeithasol ymweld â phlant yn eu gofal bob dau fis, i adolygu'r rheolau parthed gofal preswyl preifat ac i adolygu anghenion a chostau gwasanaethau plant yn y Deyrnas Unedig.[4]
Croesawyd casgliadau'r adroddiad gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, John Owen, ond datganodd na fydd yr heddlu yn erlyn yr un berson mewn cysylltiad â'r honiadau.[4]
Canlyniadau
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Questions and answers that surround a catalogue of abuse against children. The Guardian (16 Chwefror 2000). Adalwyd ar 24 Hydref 2012.
- ↑ Cynnig llais i blant mewn gofal. BBC (13 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
- ↑ Galwad am 'ad-drefnu'r system gofal yn llwyr'. BBC (15 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
- ↑ 4.0 4.1 Dim erlyn, meddai'r heddlu, ar ôl adroddiad camdrin. BBC (16 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
Darllen pellach
- Corby, B., Doig, A. a Roberts, V. Public Inquiries into Abuse of Children in Residential Care (Llundain, Jessica Kingsley, 2001).