Michigan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: el:Μίσιγκαν |
B robot yn ychwanegu: bar:Michigan |
||
Llinell 132: | Llinell 132: | ||
[[ast:Michigan]] |
[[ast:Michigan]] |
||
[[az:Miçiqan (ştat)]] |
[[az:Miçiqan (ştat)]] |
||
[[bar:Michigan]] |
|||
[[bat-smg:Mėčėgans]] |
[[bat-smg:Mėčėgans]] |
||
[[bcl:Michigan]] |
[[bcl:Michigan]] |
Fersiwn yn ôl 16:10, 21 Hydref 2012
| |||||||||
Prifddinas | Lansing | ||||||||
Dinas fwyaf | Detroit | ||||||||
Arwynebedd | Safle 11eg yn yr Unol Daleithiau | ||||||||
- Cyfanswm | 253,793 km² | ||||||||
- Lled | 621 km | ||||||||
- Hyd | 734 km | ||||||||
- % dŵr | 41.5 | ||||||||
- Lledred | 41° 41' G i 48° 18' G | ||||||||
- Hydred | 82° 7' Gorll i 90° 25' Gorll | ||||||||
Poblogaeth | Safle 8fed | ||||||||
- Cyfanswm (2010) | 9,883,640 | ||||||||
- Dwysedd | 67.55/km² (16eg) | ||||||||
Uchder | |||||||||
- Man uchaf | Mynydd Arvon 603 m | ||||||||
- Cymedr uchder | 275 m | ||||||||
- Man isaf | 174 m | ||||||||
Derbyn i'r Undeb | 26 Ionawr 1837 (26ain) | ||||||||
Llywodraethwr | Jennifer Granholm | ||||||||
Seneddwyr | Carl Levin Debbie Stabenow | ||||||||
Cylch amser | Dwyrain: UTC-5/-4 Canol: UTC-6/-5 | ||||||||
Byrfoddau | MI Mich. US-MI | ||||||||
Gwefan (yn Saesneg) | www.michigan.gov |
Mae Michigan yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, a amgylchynir o'r gorllewin i'r dwyrain gan rai o'r Llynnoedd Mawr; Llyn Superior, Llyn Huron, Llyn Michigan, Llyn Erie a Llyn St. Clair. Fe'i hymrennir gan Culfor Mackinac yn ddwy ardal ar wahân: y Gorynys Isaf yn y de (iseldiroedd) a'r Gorynys Uchaf yn y gogledd (islediroedd yn y dwyrain ac ucheldiroedd yn y gorllewin). Mae trwch y boblogaeth yn byw yn y Gorynys Isaf. Y Ffrancod oedd yr Ewropeaidd cyntaf i archwilio'r ardal, yn yr 17eg ganrif, ac arhosodd dan reolaeth Ffrainc hyd 1763 pan y'i cipiwyd gan Brydain Fawr a'i hychwanegu i diriogaeth Canada. Daeth i feddiant yr Unol Daleithiau yn 1783 a daeth yn dalaith yn 1837. Lansing yw'r brifddinas. Tarddia enw'r dalaith o'r addasiad Ffrengig o'r term Ojibwe, "mishigma", sydd golygu "dwr mawr" neu "llyn mawr".
Michigan yw'r wythfed talaith mwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau. Mae ganddi'r arfordir dwr ffres hiraf o unrhyw îs-adran wleidyddol yn y byd, am ei bod yn ffinio â phedwar o'r Llynnoedd Mawr yn ogystal â Llyn St Clair. Yn 2005, roedd Michigan yn rhif 3 o ran y nifer o gychod adloniannol a oedd wedi'u cofrestru yno, ar ôl Califfornia a Fflorida. Mae gan Michigan 64,980 o lynnoedd mewndirol. Pan fo person yn y dalaith, nid ydynt yn fwy na chwech milltir (10km) o ffynhonnell o ddwr naturiol, neu'n fwy na 87.2 milltir (137km) o arfordir y Llynnoedd Mawr.
Michigan yw'r unig dalaith sy'n cynnwys dau benrhyn yn unig. Weithiau, cyfeirir at y Penrhyn Isaf fel "y faneg" oherwydd ei siap. Mae'r Penrhyn Uchaf wedi cael ei wahanu o'r Penrhyn Isaf gan Gulfor Mackinac, sianel pum milltir (8 km) sy'n cyfuno Llyn Huron i Lyn Michigan. Mae'r Penrhyn Uchaf yn bwysig i'r dalaith am resymau economaidd oherwydd y twristiaid a'r adnoddau naturiol sydd yno.
Dinasoedd a bwrdeisdrefi pwysig
Yn ôl amcangyfrifon cyfrifiad 2007, bwrdeisdrefi mwyaf Michigan yw:
Safle | Dinas | Poblogaeth | Delwedd |
---|---|---|---|
1 | Detroit | 916,952 | |
2 | Grand Rapids | 193,627 | |
3 | Warren | 134,223 | |
4 | Sterling Heights | 127,349 | |
5 | Ann Arbor | 115,092 | |
6 | Lansing | 114,947 | |
7 | Flint | 114,662 | |
8 | Maesdref Clinton | 96,253 | |
9 | Livonia | 93,931 | |
10 | Dearborn | 89,252 |
Mae'r dinasoedd pwysig eraill yn cynnwys:
- Battle Creek ("Cereal City U.S.A.", pencadlys rhyngwladol Cwmni Kellogg)
- Benton Harbor / St. Joseph (pencadlys Corfforaeth Whirlpool)
- Dwyrain Lansing (cartref Prifysgol Talaith Michigan)
- Fremont (cartref Gerber Products Company)
- Jackson (pencadlys CMS Energy)
- Kalamazoo (Dinas fwyaf yn ne-orllewin Michigan ac yn gartref i Brifysgol Gorllewin Michigan)
- Manistee (cartref i ffatri halen fwyaf y byd, sy'n eiddo i Morton Salt)
- Marquette (y ddinas fwyaf ym Mhenrhyn Uchaf Michigan gyda 19,661 o bobl ac yn gartref i Brifysgol Gogledd Michigan)
- Midland (pencadlys Cmwni Cemegol Dow a Chorfforaeth Ŷd Dow.)
- Mount Pleasant (cartref Prifysgol Canolog Michigan)
- Muskegon (dinas fwyaf Michigan ar Lyn Michigan)
- Pontiac (canolfan fawr i gynhyrchu ceir, a chartref y Pontiac Silverdome)
- Saginaw (y mwyaf o'r Tri-Cities, sydd hefyd yn cynnwys Bay City a Midland, ac yn gartref i Brifysgol Talaith Dyffryn Saginaw)
- Sault Ste. Marie (cartref y Soo Locks a Phont Rhyngwladol Sault Ste. Marie)
- Dinas Traverse ("Prif ddinas Ceirios y Byd", gan wneud Michigan yn brif gynhyrchydd ceirios yn y wlad)
- Ypsilanti (cartref Prifysgol Dwyrain Michigan)
Lleolir hanner o gymunedau mwyaf cefnog y dalaith yn Swydd Oakland, ychydig i'r gogledd o Detroit. Lleolir cymuned cefnog arall ychydig i'r dwyrain o'r ddinas, yn Grosse Pointe. Dim ond tri o'r rhain sydd wedi'u lleoli y tu allan i Detroit Fetropolitanaidd. Mae dinas Detroit ei hun, gydag incwm y pen o $14,717, yn 517fed ar y rhestr o leoliadau ym Michigan o ran pres y pen. Benton Harbor yw'r ddinas dlotaf ym Michigan, gyda incwm y pen o $8,965, tra bod Barton Hills y mwyaf cyfoethog gyda phres y pen o $110,683.