Ieithoedd Slafonaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: szl,jv,eu,qu,gd,vo,ta,sw,bn,sq,crh,ga,pnb,yi,nrm,tr,stq,myv,be-x-old,rue,zea,io,mzn,lmo,fur,an,zh-min-nan,pms,udm,arz,av,lv,gl,ps,simple,sh,cu,hsb,hi,ku,tg,hy,cv,fy,th,rmy,os,mhr,bat-smg,mr,vls,ka,ur,dsb yn newid: la,id,vi,az,tl
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: diq:Zıwanê Slawki
Llinell 39: Llinell 39:
[[de:Slawische Sprachen]]
[[de:Slawische Sprachen]]
[[et:Slaavi keeled]]
[[et:Slaavi keeled]]
[[diq:Zıwanê Slawki]]
[[dsb:Słowjańske rěcy]]
[[dsb:Słowjańske rěcy]]
[[el:Σλαβικές γλώσσες]]
[[el:Σλαβικές γλώσσες]]

Fersiwn yn ôl 19:28, 20 Hydref 2012

     Gwledydd lle mae iaith Slafonaidd Orllewinol yn iaith genedlaethol      Gwledydd lle mae iaith Slafonaidd Ddwyreiniol yn iaith genedlaethol      Gwledydd lle mae iaith Slafonaidd Ddeheuol yn iaith genedlaethol

Grŵp o ieithoedd a siaredir yn nwyrain Ewrop a gogledd Asia yw'r ieithoedd Slafonaidd, hefyd ieithoedd Slafonig. Maen nhw'n perthyn i deulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd sy'n gorestyn o arfordir yr Iwerydd hyd at India yn y dwyrain. Fe'u dosbarthir yn dri is-grŵp: yr ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol (Pwyleg, Slofaceg, Sorbeg a Tsieceg), yr ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol (Belarwsieg, Rwsieg ac Wcreineg, a'r ieithoedd Slafonaidd Deheuol (Bosneg, Bwlgareg, Croateg, Macedoneg, Serbeg a Slofeneg). Weithiau cyfeirir at y grwpiau gorllewinol a dwyreiniol fel ieithoedd Slafonaidd gogleddol ar sail nodweddion cyffredin. Mae ychydig o ieithoedd Slafonaidd eraill wedi marw: Hen Slafoneg Eglwysig (Slafeg deheuol) a Polabeg (iaith Slafig gogledd-orllewin yr Almaen).

Heddiw mae'r ieithoedd Slafonaidd yn defnyddio naill ai'r wyddor Gyrilig neu'r wyddor Ladin ar gyfer eu ffurf ysgrifenedig. Mae'r ieithoedd Slafonaidd Gorllewinol a Deheuol i gyd yn defnyddio'r wyddor Ladin, ac eithrio Bwlgareg, Macedoneg, ac, i radd helaeth, Serbeg, sy'n defnyddio'r wyddor Gyrilig. Mae'r ieithoedd Slafonaidd Dwyreiniol yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Fel rheol fras, mae'r gwledydd Slafaidd Catholig yn defnyddio'r wyddor Ladin, a'r rhai uniongred yn defnyddio'r wyddor Gyrilig. Defnyddiwyd gwyddor arall, y wyddor Glagolitig, a ddyfeisiwyd yn wreiddiol ar gyfer Hen Slafoneg Eglwysig gan SS. Cyril a Methodiws, o'r nawfed ganrif ymlaen yn y gwledydd Slafig deheuol. Fe'i disodlwyd ym Mwlgaria a Macedonia gan y wyddor Gyrilig erbyn y ddeuddegfed ganrif, ond cafodd ei defnyddio mewn rhai ardaloedd, Croatia yn arbennig, ar gyfer testunau eglwysig hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ffynonellau

  • Comrie, Bernard, a Corbett, Greville G. gol. 1993. The Slavonic languages. Llundain: Routledge.
  • De Bray, Reginald G. A. 1970. Guide to the Slavonic languages. Llundain.
  • Horálek, K. 1992. Introduction to the study of the Slavonic languages. Nottingham: Astra Press.