SpynjBob Pantsgwâr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
JYBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: zea:SpongeBob SquarePants
Llinell 97: Llinell 97:
[[uk:Губка Боб Квадратні Штани]]
[[uk:Губка Боб Квадратні Штани]]
[[vi:SpongeBob SquarePants]]
[[vi:SpongeBob SquarePants]]
[[zea:SpongeBob SquarePants]]
[[zh:海綿寶寶]]
[[zh:海綿寶寶]]
[[zh-min-nan:SpongeBob SquarePants]]
[[zh-min-nan:SpongeBob SquarePants]]

Fersiwn yn ôl 20:03, 17 Hydref 2012

SpynjBob Pantsgwâr

SpynjBob Pantsgwâr (Saesneg: SpongeBob SquarePants) yw'r enw Cymraeg ar gyfres deledu animeiddiedig Americanaidd am y cymeriad cartŵn o'r un enw, a'r cwmni cyfryngau sy'n ei chynhyrchu. Mae'n un o "Nicktoons" y cwmni teledu Nickelodeon.

Erbyn heddiw, darlledir SpynjBob ledled y byd. Fe'i crëwyd gan y biolegydd morol ac animeiddiwr Stephen Hillenburg ac fe'i cynhyrchir gan ei gwmni cynhyrchu, United Plankton Pictures. Lleolir y gyfres yn y Cefnfor Tawel yn ninas Pant y Bicini (Saesneg: Bikini Bottom) a'i chyffiniau ar waelod lagŵn. Darlledwyd y bennod beilot yn yr Unol Daleithiau ar Nickelodeon ar 1 Mai 1999, gyda'r gyfres gyntaf swyddogol yn dilyn ar 17 Mehefin yn yr un flwyddyn. Cafwyd sawl cyfres erbyn hyn ynghyd â DVDau a dwy ffilm hir.

Fersiwn Cymraeg

Dechreuodd y gyfres Gymraeg ar S4C ar 7 Medi 2011, ac mae ar gael drwy S4C Clic.

Cymeriadau yn Gymraeg

Cymraeg Saesneg gwreiddiol
SpynjBob Pantsgwâr SpongeBob SquarePants
Padrig Patrick
Sulwyn Surbwch Squidward Tentacles
Mr Cranci Mr Krabs
Al-gi Plankton
Cenwyn Larry Lobster
Gwilym Gwellnaphawb Squillium Fancyson
Y Crancdy The Krusty Krab

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato