Mynachlog Santes Catrin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn newid: en:Saint Catherine's Monastery |
B Robot: Mae ru:Монастырь Святой Екатерины yn erthygl ddethol |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
[[Categori:Safleoedd Treftadaeth y Byd yn yr Aifft]] |
[[Categori:Safleoedd Treftadaeth y Byd yn yr Aifft]] |
||
[[Categori:Sinai]] |
[[Categori:Sinai]] |
||
{{Cyswllt erthygl ddethol|ru}} |
|||
[[ar:دير سانت كاترين]] |
[[ar:دير سانت كاترين]] |
Fersiwn yn ôl 13:55, 17 Hydref 2012
Mynachlog ar orynys Sinai yn yr Aifft yw Mynachlog Santes Catrin (Groeg: Μονὴ τῆς Ἁγίας Αἰκατερίνης). Saif ger llethrau isaf Mynydd Sinai. Dymodwyd y fynachlog, sy'n perthyn i Eglwys Uniongred Groeg, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Ystyrir mai Mynachlog Santes Catrin yw'r fynachlog Gristnogol hynaf yn y byd.
Ceir cofnod am fynachod yma gan bererin o'r enw Egeria tua 381-384. Adeiladwyd y fynachlog gan yr ymerawdwr Justinian I (teyrnasodd 527-565), o amgylch Capel y Berth yn Llosgi. Roedd y capel hwn wedi ei adeiladu gan Helena, mam yr ymerawdwr Cystennin I, ar y safle lle dywedir i Moses weld y berth yn llosgi. Cafodd y fynachlog ei henw oddi wrth Santes Catrin o Alecsandria. Wedi iddi gaeth ei merthyru, roedd traddodiad i angylion gario ei chorff i'r safle yma.
Ceir casgliad ail-fwyaf y byd o lawysgrifau cynnar yma, a nifer fawr o weithiau celf, yn cynnwys casgliad gorau'r byd o eiconau cynnar. Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol