Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 55: | Llinell 55: | ||
== Cyngherddau == |
== Cyngherddau == |
||
Y Tri Tenor Cymreig ([[Rhys Meirion]], [[Aled Hall]] ac [[Alun Rhys-Jenkins]]) oedd yn perfformio yn y Cyngerdd Agoriadol. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf yn yr Eisteddfod hefyd. Ymhlith artistiaid eraill yr Ŵyl yr oedd [[Caryl Parry Jones]], [[Huw Chiswell]], [[Elin Fflur], Ysgol Glanaethwy ac Al Lewis Band |
Y Tri Tenor Cymreig ([[Rhys Meirion]], [[Aled Hall]] ac [[Alun Rhys-Jenkins]]) oedd yn perfformio yn y Cyngerdd Agoriadol. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf yn yr Eisteddfod hefyd. Ymhlith artistiaid eraill yr Ŵyl yr oedd [[Caryl Parry Jones]], [[Huw Chiswell]], [[Elin Fflur], [[Ysgol Glanaethwy] ac Al Lewis Band |
||
== Maes B == |
== Maes B == |
Fersiwn yn ôl 13:52, 13 Hydref 2012
Lleoliad | Fferm Bers Isaf, Y Bers, Wrecsam |
---|---|
Cynhaliwyd | 30 Gorffennaf - 6 Awst 2011 |
Archdderwydd | T. James Jones |
Llywydd | Mair Carrington Roberts [1] |
Nifer yr ymwelwyr | 149,692 [2] |
Enillydd y Goron | Geraint Lloyd Owen |
Enillydd y Gadair | Rhys Iorwerth |
Gwobr Daniel Owen | Daniel Davies |
Y Fedal Ryddiaith | Manon Rhys |
Tlws y Cerddor | Meirion Wynn Jones |
Gwefan | www.eisteddfod.org.uk |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 ar dir Fferm Bers Isaf, yn y Bers ger Wrecsam rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2011.
Prif gystadlaethau
Y Coroni
Enillydd y goron oedd Geraint Lloyd Owen o Bontnewydd, Caernarfon; roedd 36 wedi cystadlu a'r dasg oedd llunio dilyniant o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell ar y testun 'Gwythiennau'. Y tri beirniad oedd Gwyn Thomas, Alan Llwyd a Nesta Wyn Jones. Roedd Nesta Wyn Jones o blaid coroni Delysg ac roedd Alan Llwyd a Gwyn Thomas o blaid Geraint, tri a oedd yn haeddu'r wobr, O'r Tir Du, Promethews a Fena Cafa.
Y Cadeirio
Enillwyd y gadair gan Rhys Iorwerth sydd yn dod o Gaerdydd erbyn hyn ond yn hanu o Gaernarfon. Mewn cystadleuaeth gref iawn, dyma'r tro cyntaf iddo gystadlu am y gadair. Rhoddwyd y gadair gan Gwmni Seren Arian a'r wobr ariannol o £750 gan gwmni Buddsoddiadau Pritchard Cymru.
Y tri beirniad oedd Emyr Lewis, Donald Evans a Gruffydd Aled williams.
Y Fedal Ryddiaith
Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Manon Rhys o Gaerdydd. Y tri beirniaid oedd: Grahame Davies, Hazel Walford Davies a Branwen Jarvis.
Tlws y Cerddor
Meirion Wynn Jones enillodd y tlws.[1]
Gwobr Goffa Daniel Owen
Daniel Davies oedd enillydd y wobr, gyda chwech o lenorion yn cystadlu. Ysgrifennu nofel o dros 50,000 o eiriau, gyda llinyn stori cryf yn nadreddu drwyddi oedd y gamp. Roedd y wobr yn £5,000. Tair Rheol Anrhefn, oedd teitl y nofel, sef pedwaredd nofel Daniel Davies.
Cyngherddau
Y Tri Tenor Cymreig (Rhys Meirion, Aled Hall ac Alun Rhys-Jenkins) oedd yn perfformio yn y Cyngerdd Agoriadol. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf yn yr Eisteddfod hefyd. Ymhlith artistiaid eraill yr Ŵyl yr oedd Caryl Parry Jones, Huw Chiswell, [[Elin Fflur], [[Ysgol Glanaethwy] ac Al Lewis Band
Maes B
Campws Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, oedd lleoliad Maes B. Y perfformwyr oedd Dau Cefn, Yucatan, Land of Bingo, Breichiau Hir, Y Niwl, Meic Stevens, Lleuwen a Gildas, Elin Fflur, Al Lewis Band, Yr Angen, Yr Ods, Y Bandana, Y Trydan, Plant Duw, Jen Jeniro, Sensegur, Acid Casuals a’u set DJ, Plyci, Crash.Disco!, Cloud4Mations, DJs Electroneg 1000, Cowbois Rhos Botwnnog, Gai Toms, Catrin Herbert, Sibrydion, Masters in France, Violas, Colorama, Huw M a Trwbador.[2]