Tudweiliog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: eu:Tudweiliog
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: br:Tudweiliog
Llinell 11: Llinell 11:
[[Categori:Llŷn]]
[[Categori:Llŷn]]


[[br:Tudweiliog]]
[[en:Tudweiliog]]
[[en:Tudweiliog]]
[[eu:Tudweiliog]]
[[eu:Tudweiliog]]

Fersiwn yn ôl 19:25, 12 Hydref 2012

Eglwys Cwyfan Sant, Tudweiliog

Pentref bychan a chymuned ar arfordir ogleddol Penrhyn Llŷn, Gwynedd yw Tudweiliog.

Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn Gymraeg-gyntaf eu hiaith. Mae amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda thwristiaeth yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned, tŷ tafarn, gefail, eglwys, capel ac ysgol gynradd (presennol) a ddathlodd ei chanmlwyddiant yn 2007. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a Phwllheli, sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn sir Gwynedd, ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Coetan Arthur (cromlech) ar Mynydd Cefnamwlch, olion cymuned o Oes yr Haearn ar gopa fynydd Carn Fadryn, traethau tywodlyd Tywyn a Phenllech a phorthladdoedd hanesyddol Porth Ysgaden, Porth Colmon yn Llangwnnadl (hefyd Llangwnadl), a Phorth Gwylan sydd dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.