Eidaleg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn newid: pa:ਇਤਾਲਵੀ ਭਾਸ਼ਾ→pa:ਇਤਾਲਵੀ ਬੋਲੀ |
PixelBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn newid: mg:Fiteny italiana |
||
Llinell 149: | Llinell 149: | ||
[[lv:Itāļu valoda]] |
[[lv:Itāļu valoda]] |
||
[[mdf:Италиень кяль]] |
[[mdf:Италиень кяль]] |
||
[[mg:Fiteny |
[[mg:Fiteny italiana]] |
||
[[mhr:Итальян йылме]] |
[[mhr:Итальян йылме]] |
||
[[mk:Италијански јазик]] |
[[mk:Италијански јазик]] |
Fersiwn yn ôl 19:27, 9 Hydref 2012
Eidaleg | ||
---|---|---|
Italiano, Lingua italiana | ||
Ynganiad IPA | [itaˈljaːno] | |
Siaredir yn | Yr Eidal, San Marino, Malta, Y Swistir, Y Fatican, Slofenia (Istria Slofenaidd), Croatia (Swydd Istria), yr Ariannin, Brasil | |
Rhanbarth | (fe'i gwyddys gan lawer o bobl hŷn a sectorau masnachol yn Somalia, Eritrea, a Libya; fe'i defnyddir yn y Senedd Ffederal Rhyngbarthol yn Somalia) | |
Cyfanswm siaradwyr | 62 miliwn o bobl, sy'n frodorol a brodorol-ddwyieithog Cyfanswm: 80 miliwn;[1] 85 miliwn yn ôl pob math[1] | |
Teulu ieithyddol | Indo-Ewropeaidd | |
System ysgrifennu | Lladin (Yr wyddor Eidaleg) | |
Statws swyddogol | ||
Iaith swyddogol yn | Yr Undeb Ewropeaidd Yr Eidal Y Swistir San Marino Dinas y Fatican Croatia (Swydd Istria) Slofenia (Istria Slofenaidd) | |
Rheoleiddir gan | nid yn swyddogol gan Accademia della Crusca | |
Codau ieithoedd | ||
ISO 639-1 | it | |
ISO 639-2 | ita | |
ISO 639-3 | ita | |
Wylfa Ieithoedd | 51-AAA-q |
Eidaleg (Eidaleg: Italiano) yw iaith Yr Eidal, San Marino, Swistir a'r Fatican. Yn ôl ystadegau yr Undeb Ewropeaidd, siaredir Eidaleg fel mamiaith gan 65 miliwn o bobl yn yr UE (13% o boblogaeth yr UE), yn Yr Eidal yn bennaf, ac fel ail iaith gan 14 miliwn o bobl (3%)[2]. Gan gynnwys siaradwyr Eidaleg mewn gwledydd na sydd yn rhan o'r UE (megis Y Swistir ac Albania) ac ar gyfandiroedd eraill, mae yna dros 85 miliwn o bobl yn siarad yr iaith.
Ymadroddion cyffredin
- italiano : Eidaleg
- gallese : Cymraeg
- inglese : Saesneg
- 'salve! : helô! / hwyl fawr! (Gallwch ddweud salve! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
- ciao!: shwmâi! / hwyl! (yn debyg i salve! ond yn anffurfiol)
- saluti! : cyfarchion! (yn debyg i salve! ond yn fwy ffurfiol)
- come sta? : sut mae?
- buon giorno!: bore/p'nawn da!
- buona sera! : noswaith dda!
- arrivederci!: da boch chi! / Hwyl fawr!
- buona notte! : nos da!
- mi scusi! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
- permesso! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
- prego? : esgusodwch fi? (os ydych chi ddim wedi deall)
- per favore / per piacere: os gwelwch chi'n dda
- grazie: diolch
- no grazie : dim diolch!
- molto grazie / tante grazie : diolch yn fawr
- prego! : da chi! (pan fydd rhywun yn dweud grazie!, atebwch gyda prego!.)
- mi dispiace: mae'n flin gen i
- si : ïe / do / oes etc.
- no : nage / naddo / nag oes etc.
- salute! / cin-cin!: Iechyd da!
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Eurobarometer – Europeans and their languages, Chwefror 2006
- ↑ Eurobarometer – Europeans and their languages, Chwefror 2006
Argraffiad Eidaleg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd