Eva Perón: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
RedBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: lij:Eva Duarte de Perón
TjBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: th:เอบา เปรอน
Llinell 109: Llinell 109:
[[sv:Eva Perón]]
[[sv:Eva Perón]]
[[ta:இவா பெரோன்]]
[[ta:இவா பெரோன்]]
[[th:เอบา เปรอน]]
[[tl:Eva Perón]]
[[tl:Eva Perón]]
[[tr:Eva Perón]]
[[tr:Eva Perón]]

Fersiwn yn ôl 17:54, 9 Hydref 2012

Eva Perón
GalwedigaethGwleidydd

Roedd María Eva Duarte de Perón neu Evita Perón (7 Mai 1919 - 26 Gorffennaf 1952), ganed María Eva Duarte, yn actores a gwleidydd poblogaidd, a aned yn Los Toldos, Buenos Aires. Ail wraig yr Arlywydd Juan Domingo Perón (1895–1974) ydoedd a bu'n Foneddiges Gyntaf yr Ariannin o 1946 tan ei marwolaeth ym 1952. Yn aml cyfeirir ati fel Eva Perón, neu'r term Sbaeneg o annwylder Evita, sy'n golygu "Eva Fach".

Ei hanes

Plentyn llwyn a pherth ydoedd a anwyd yng nghefn gwlad yr Ariannin ym 1919. Ym 1934, pan oedd yn 15 mlwydd oed, aeth i'r brifddinas, Buenos Aires lle dilynodd yrfa fel actores ym myd y llwyfan, radio a ffilm.

Cyfarfu Eva y Cadfridog Juan Perón ar 22 Ionawr, 1944, mewn noson elusennol yn Stadiwm Park Luna ym Buenos Aires, er mwyn codi arian i'r rhai a ddioddefodd yn Naeargryn San Juan. Priododd y ddau y flwyddyn ganlynol. Ym 1946, etholwyd Juan Perón yn Arlywydd yr Ariannin. Dros y chwe mlynedd ganlynol, daeth Eva Perón yn ffigur dylanwadol o fewn yr undebau llafur o blaid Peron, gan siarad ar ran hawliau'r gweithwyr. Rheolodd y Gweinidogaethau Gwaith ac Iechyd a sefydlodd Sefydliad Eva Perón er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol yn y wlad. Cefnogai Evita ddiwygiadau poblogaidd o blaid y werin. Oherwydd hynny a'i gwaith elusennol cawsai ei haddoli gan y tlodion yn ystod ei hoes fer. Gweithiai'n galed o blaid rhoi'r hawl i bleidleisio i ferched. Hyhi hefyd a sefydlodd y Blaid Benywaidd Peronaidd.

Ym 1951, derbyniodd Eva Perón yr enwebiad Peronaidd i fod yn Is-Arlywydd yr Ariannin. Yn ei hymgais, cafodd gefnogaeth o sylfeini gwleidyddol Peronaidd a dosbarth gweithiol, incwm isel yr Ariannin a gyfeiriwyd atynt fel descamisados neu'r "rhai heb grysau". Fodd bynnag, golygodd gwrthwynebiad gan elite y wlad a'r lluoedd arfog, ynghyd â'i hiechyd bregus ei bod wedi tynnu ei henw'n ôl. Ym 1952, ychydig cyn ei marwolaeth i gancr yn 33 mlwydd oed, rhoddwyd y teitl swyddogol o "Arweinydd Ysbrydol y Genedl" iddi gan y Gynghrair Archentaidd.

Bedd Perón ym mynwent Recoleta yn Buenos Aires

Dylanwad

Ysgrifennodd Andrew Lloyd-Webber a Tim Rice y sioe gerdd enwog Evita amdani yn 1978. Elaine Paige a chwaraeodd ran Evita. Yn y ffilm o'r un enw Madonna a chwaraeodd ran Evita.


Gweler hefyd

  • Evita - sioe gerdd Andrew Lloyd Webber.

Dolenni allanol

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol