Boer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
CommonsDelinker (sgwrs | cyfraniadau)
B Yn dileu "Afrikaner_Commandos2.JPG". Cafodd ei dileu oddi ar Gomin gan Fastily achos: Per commons:Commons:Deletion requests/File:Afrikaner commandos.JPG.
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sa:बोअर
Llinell 46: Llinell 46:
[[ro:Buri (Africa)]]
[[ro:Buri (Africa)]]
[[ru:Буры]]
[[ru:Буры]]
[[sa:बोअर]]
[[sh:Buri]]
[[sh:Buri]]
[[simple:Boer]]
[[simple:Boer]]

Fersiwn yn ôl 01:23, 7 Hydref 2012


Boer (y gair Iseldireg am "ffermwr") yw'r term a ddaeth i gael ei ddefnyddio am ddisgynyddion ymfudwyr o'r Iseldiroedd i Dde Affrica. Datblygodd eu hiaith i fod yn Affricaneg.

Ymsefydlodd y Boeriaid yn ardal y Penrhyn yn wreiddiol. Yn y 19eg ganrif, pan ddaeth yr ardal yma yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig, symudodd rhai o'r Boeriaid tua'r gogledd, i greu Talaith Rydd Oren a'r Transvaal, a elwid y Taleithiau Boer. Gelwid y rhai a ymfudodd tua'r gogledd yn Trekboere yn wreiddiol.

Yn ddiweddarach, ymladdasant ddau ryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Brydeinig, Rhyfel Cyntaf y Boer ac Ail Ryfel y Boer. Heddiw, maent yn defnyddio'r term Afrikaner amdanynt eu hunain fel rheol, er bod yn well gan rai o'r elfennau mwy ceidwadol ddefnyddio'r term Boer.


Pobl enwog