Thiamin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: lv:B1 vitamīns |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn newid: hi:विटामिन बी१ |
||
Llinell 46: | Llinell 46: | ||
[[gl:Vitamina B1]] |
[[gl:Vitamina B1]] |
||
[[he:ויטמין B1]] |
[[he:ויטמין B1]] |
||
[[hi: |
[[hi:विटामिन बी१]] |
||
[[hr:Vitamin B1]] |
[[hr:Vitamin B1]] |
||
[[hu:Tiamin]] |
[[hu:Tiamin]] |
Fersiwn yn ôl 04:16, 6 Hydref 2012
Adnabyddir y term cemegol thiamin hefyd gan yr enwau fitamin B1 ac aneurine hydrochloride, sef teulu o foleciwlau sy'n rhannu yr un math o strwythur. Ei ffurf arferol yw fel cemegolyn di-liw gyda fformiwla gemegol o C12H17N4OS. Mae'r math hwn o thiamin yn hydoddi mewn dŵr, methanol a glyserol ond nid mewn aseton, ether, clorofform na bensen ('benzene'). Math arall o thiamin yw TTFD, sydd â nodweddion hydoddi hollol wahanol, ac yn perthyn i'r teulu hwnnw o fitaminau sy'n hydoddi mewn olew. Mae ganddo gylch pyramidin a chylch thiasol.
Yn y corff dynol, mae'n holl bwysig ar gyfer metabolism iach (o ran carbohydrad iach) ac ar gyfer y system nerfol. Gall diffyg thiamin arwain at beriberi gyda phroblemau gyda'r galon a'r nerfau yn amlygu eu hunain. Mae ychydig o ddiffyg thiamin yn rhoi symtomau megis colli pwysau, 'malaise' a dryswch.
Ffynhonnell
Mae ychydig bach o thiamin i'w ddarganfod mewn llawer iawn o fwydydd. Iau ('Afu') a burum ydy ffynhonnell bwysicaf y fitamin hwn. Dyma lefydd eraill:[1]
- Burum
- Ceirch
- Reis brown
- Blawd cyflawn (rhug neu ŷd)
- Asparagws
- Bresych
- Blodfresych
- Tatws
- Orenau
- Porc
- Ham
- Iau (mochyn neu gig eidion)
- Wyau
Cyfeiriadau
- ↑ Combs GF. The vitamins: fundamental aspects in nutrition and health. 3rd Ed. Elsevier: Boston, 2008.