Golwg360: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
dileu brawddeg - gw. sgwrs |
B cat |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
{{cyfeiriadau}} |
{{cyfeiriadau}} |
||
[[Categori:Y wasg Gymraeg]] |
|||
[[Categori:Gwefannau Cymraeg]] |
[[Categori:Gwefannau Cymraeg]] |
||
[[Categori: |
[[Categori:Gwefannau newyddion]] |
||
[[Categori:Sefydliadau 2009]] |
[[Categori:Sefydliadau 2009]] |
Fersiwn yn ôl 00:57, 6 Hydref 2012
Mae Golwg360 yn wasanaeth newyddion dyddiol arlein a lansiwyd ym mis Mai 2009.
Ariennir Golwg360 trwy gymysgedd o grantia cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a gwerthiant hysbysebion a gwasanaethau masnachol drwy'r wefan. Cafodd grant ddechreuol o £600,000 dros gyfnod o dair mlynedd, gan roi diwedd ar obeithion Dyddiol Cyf am gael arian cyhoeddus ar gyfer papur dyddiol print Cymraeg Y Byd. Ym Mawrth 2011 cafodd Golwg360 estyniad i'w grant am dair mlynedd arall wedi adroddiad ffafriol gan Wavehill Consulting.[1][2]
Er bod cryn gydweithio rhwng y Cylchgrawn Golwg a Golwg360 ar sawl lefel, rhedir y ddau wasanaeth newyddion fel busnesau ar wahân gyda'u golygyddion eu hunain. Owain Schiavone yw prif-weithredwr Golwg360; a Bethan Lloyd yw'r golygydd presennol, sydd yn cymryd lle Ifan Morgan Jones fu'n olygydd rhwng Mai 2009 a Medi 2011.[3]
Mae prif adrannau y wefan yn cynnwys:
- Newyddion
- Chwaraeon
- Celfyddydau
- Calendr
- Blog
- Bwyd
- Lle Pawb
- Adran Swyddi