Sweden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn newid: ia:Sveda
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: pa:ਸਵੀਡਨ
Llinell 234: Llinell 234:
[[or:ସ୍ଵିଡେନ]]
[[or:ସ୍ଵିଡେନ]]
[[os:Швеци]]
[[os:Швеци]]
[[pa:ਸਵੀਡਨ]]
[[pam:Sweden]]
[[pam:Sweden]]
[[pap:Suecia]]
[[pap:Suecia]]

Fersiwn yn ôl 04:05, 5 Hydref 2012

Konungariket Sverige
Teyrnas Sweden
Baner Sweden Arfbais Sweden
Baner Arfbais
Arwyddair: För Sverige i tiden
(Cymraeg: "Am Sweden yn yr Amser")
Anthem: Du gamla, du fria
(Cymraeg: "Hynafol wyt, rhydd wyt")
Lleoliad Sweden
Lleoliad Sweden
Prifddinas Stockholm
Dinas fwyaf Stockholm
Iaith / Ieithoedd swyddogol Dim; Swedeg de facto
Llywodraeth Brenhiniaeth gyfansoddiadol
- Brenin Siarl XVI
- Prif Weinidog Fredrik Reinfeldt
Cydgyfnerthiad
Oesoedd Canol cynnar
Esgyniad i'r UE1 Ionawr 1995
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
449,964 km² (55ed)
8.67
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2006
 - Cyfrifiad 1990
 - Dwysedd
 
9,097,948 (85ed)
8,587,353
20/km² (185fed)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$270.516 biliwn (35fed)
$29,898 (19fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2 003) 0.949 (6ed) – uchel
Arian cyfred Krona Swedaidd (SEK)
Cylchfa amser
 - Haf
CET (UTC+1)
CEST (UTC+2)
Côd ISO y wlad .se1
Côd ffôn +46
1 Hefyd .eu

Un o wledydd Llychlyn, yng ngogledd Ewrop, yw Teyrnas Sweden neu Sweden (Swedeg, Sverige). Er ei bod yn un o wledydd mwyaf Ewrop o ran arwynebedd, yn mesur 450,000 cilometr sgwâr, mae'r boblogaeth yn gymharol isel ac wedi ei chrynhoi yn y trefi a'r dinasoedd ar y cyfan. Stockholm yw'r brifddinas.

Daearyddiaeth

Sweden yw'r fwyaf o wledydd Llychlyn yng ngogledd-orllewin Ewrop. Mae'n ffinio ar Norwy yn y gorllewin ac ar y Ffindir yn y dwyrain. Yn y de-orllewin, mae culforoedd y Kattegat a'r Skagerrak yn ei gwahanu oddi wrth Denmarc.

Mae llawer o dde a dwyrain Sweden yn dir cymharol isel, ond mae'r gorllewin yn fynyddig, ynh enwedig o gwmpas y ffîn â Norwy. Y copa uchaf yw Kebnekaise, 2,111 medr uwch lefel y môr. Gorchuddir tua 78% o'r wlad gan fforestydd, ac mae gan y wlad tua 95,700 o lynnoedd; y mwyaf o'r rhain yw Llyn Vänern a Llyn Vättern. Llyn Vänern yw'r trydydd fwyaf yn Ewrop. Mae gan Sweden nifer o ynysoedd; y ddwy fwyaf yw Gotland ac Öland yn y Môr Baltig.

Dinasoedd a threfi mwyaf Sweden yw:

  1. Stockholm 1 252 020
  2. Göteborg 510 491
  3. Malmö 258 020
  4. Uppsala 128 409
  5. Västerås 107 005

Hanes

Cododd Sweden gyfoes o'r Undeb Kalmar a ffurfiwyd yn 1397 ac o uno'r wlad gan y brenin Gustav Vasa yn yr 16eg ganrif. Yn yr 17fed ganrif, ymledaenodd Sweden ei thiriogaethau i ffurfio'r Ymerodraeth Swedaidd. Yn y 18fed ganrif, bu rhaid i Sweden ildio'r rhan fwyaf o'r tiriogaethau yr oedd wedi eu goresgyn. Collwyd y Ffindir a'r tiriogaethau a oedd yn weddill tu allan i benrhyn Llychlyn yn gynnar yn y 19eg ganrif. Yn dilyn diwedd y rhyfel olaf rhyngddynt yn 1814, daeth Sweden yn ran o undeb gyda Norwy a barhaodd hyd 1905. Ers 1814, mae Sweden wedi bod yn wlad heddychlon gan fabwysiadu bolisi tramor o niwtraliaeth yn ystod cyfnodau o heddwch a rhyfel.

Gwleidyddiaeth

Diwylliant

Sweden
Eginyn erthygl sydd uchod am Sweden. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol ak:Sweden