Mytholeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn newid: eo:Mitologio |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: tt:Мифология |
||
Llinell 121: | Llinell 121: | ||
[[tl:Mitolohiya]] |
[[tl:Mitolohiya]] |
||
[[tr:Mitoloji]] |
[[tr:Mitoloji]] |
||
[[tt:Мифология]] |
|||
[[uk:Міфологія]] |
[[uk:Міфологія]] |
||
[[ur:علم الاساطیر]] |
[[ur:علم الاساطیر]] |
Fersiwn yn ôl 14:51, 4 Hydref 2012
Mytholeg (Groeg: μυθολογία "adrodd chwedlau", o μῦθος muthos, "chwedl", a λόγος logos, "adroddiad, araith") yw corff neu gylch o chwedlau sy'n dwyn perthynas â bywyd ysbrydol neu grefyddol diwylliant neu bobl neilltuol, yn bennaf neu'n wreiddiol yn y traddodiad llafar. Yn aml mae'r traddodiadau a chwedlau hyn yn ymwneud â bodau a digwyddiadau goruwchnaturiol neu ddwyfol ac yn cynnig esboniad ynglŷn â natur Dyn a'r Bydysawd.
Yn yr ystyr fodern mae'r gair mytholeg yn cyfeirio yn ogystal at yr astudiaeth wyddonol o'r cyfryw chwedlau a thraddodiadau.
Mae llên gwerin a'r astudiaeth ohoni yn perthyn i fytholeg hefyd, er bod y chwedlau gwreiddiol wedi newid eu naws a'u harwyddocâd yn aml, neu wedi'u cymysgu ag elfennau eraill.