Oued Ed-Dahab-Lagouira: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ca:Oued Ed-Dahab-Lagouira |
B r2.7.3rc2) (robot yn ychwanegu: da:Oued Ed-Dahab-Lagouira |
||
Llinell 31: | Llinell 31: | ||
[[bs:Oued Ed-Dahab-Lagouira]] |
[[bs:Oued Ed-Dahab-Lagouira]] |
||
[[ca:Oued Ed-Dahab-Lagouira]] |
[[ca:Oued Ed-Dahab-Lagouira]] |
||
[[da:Oued Ed-Dahab-Lagouira]] |
|||
[[de:Oued ed Dahab-Lagouira]] |
[[de:Oued ed Dahab-Lagouira]] |
||
[[en:Oued Ed-Dahab-Lagouira]] |
[[en:Oued Ed-Dahab-Lagouira]] |
Fersiwn yn ôl 16:58, 2 Hydref 2012
Un o 16 rhanbarth Moroco yw Oued Ed-Dahab-Lagouira (Arabeg: وادي الذهب لكويرة), yng Ngorllewin Sahara. Mae gan y rhanbarth arwynebedd o 142,865 km² a phoblogaeth o 99,367 (cyfrifiad 2004). Dakhla (hen enw Sbaeneg: Villa Cisneros) yw'r brifddinas, ar lan Cefnfor Iwerydd.
Fe'i lleolir yn nhiriogaeth ddadleuol Gorllewin Sahara, sy'n cael ei ystyried gan lywodraeth Moroco yn rhan o diriogaethau deheuol y wlad honno. Ond mae'r Polisario a mudiadau Sahrawi eraill yn ystyried y rhanbarth yn rhan o Weriniaeth Ddemocrataidd Arabaidd Sahrawi. Nid yw'r Cenhedloedd Unedig yn cydnabod hawl Moroco ar sofraniaeth yr ardal na chwaith y weriniaeth Sahrawi.
Mae'r rhanbarth yn cynnwys un préfecture ac un dalaith:
- Préfecture Aousserd
- Talaith Oued Ed-Dahab
Mae'n ardal sych, lled-anial, ar ymyl gorllewinol y Sahara. Mae mwyafrif y boblogaeth yn byw ar yr arfordir ac yn cynnwys nifer o Forocwyr sydd wedi cael eu hannog i ymfudo i'r diriogaeth gan y llywodraeth; er mwyn eu denu, mae trethi yn is o lawer yma nac yng ngweddill Moroco.
Dolenni allanol
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol Oued Ed-Dahab-Lagouira
Gweler hefyd