Rhys Ifans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: zh:瑞斯·伊凡斯
Cymdeithas Llwybrau Byw
Llinell 15: Llinell 15:
Yn Gymro [[Cymraeg]], ymddangosodd mewn amryw o raglenni teledu Cymraeg, megis ''[[Pobol y Chyff]]'' ar [[S4C]] cyn esgor ar yrfa ym myd ffilmiau rhyngwladol.
Yn Gymro [[Cymraeg]], ymddangosodd mewn amryw o raglenni teledu Cymraeg, megis ''[[Pobol y Chyff]]'' ar [[S4C]] cyn esgor ar yrfa ym myd ffilmiau rhyngwladol.

Ym Medi 2012 cafodd ei benodi yn Llywydd Anrhydeddus [[Cymdeithas Llwybrau Byw]], sef y gymdeithas sy'n gefn i [[Wicipedia Cymraeg]].

==Ei yrfa==
Mae wedi perfformio yn y [[Theatr Frenhinol Genedlaethol, Llundain]] ac yn [[Theatr Frenhinol y Gyfnewidfa, Manceinion]]. Bu'n brif ganwr y [[Super Furry Animals]] ar un adeg, cyn iddynt ddod i amlygrwydd. Ym Mehefin 2008 sefydlodd fand newydd o'r enw ''[[The Peth]]''; ef yw prif ganwr y grŵp. Mae un o'u caneuon yn cyfeirio at gyn-ffrind iddo, sef [[Sienna Miller]], a oedd i'w gweld gyda Rhys yn Rhuthun, Nadolig 2007. Cafodd y ddau datŵ gwennol ar eu garddwn chwith.

`
`

Fersiwn yn ôl 08:50, 1 Hydref 2012

Rhys Ifans
GalwedigaethActor

Actor a chanwr o Gymru yw Rhys Ifans (ganed 22 Gorffennaf 1967). Cafodd ei eni yn Hwlffordd, Sir Benfro, ond symudodd y teulu i Ruthun yn Sir Ddinbych, lle cafodd ei addysg gynradd yn Ysgol Pentrecelyn a'i addysg uwchradd yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug. Roedd ei fam, Beti Wyn, yn Brifathrawes yn Ninbych tan iddi ymddeol ar ddiwedd y 90au ac roedd Eurwyn, ei dad, yn athro cynradd ym Mwcle. Roedd ei dad yn aelod o Gwmni Drama John Owen yn Rhuthun a chafodd Rhys brentisiaeth dan adain ei dad. Cafodd hefyd gyfle tra'n ifanc i actio yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug.

Yn Gymro Cymraeg, ymddangosodd mewn amryw o raglenni teledu Cymraeg, megis Pobol y Chyff ar S4C cyn esgor ar yrfa ym myd ffilmiau rhyngwladol.

Ym Medi 2012 cafodd ei benodi yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Llwybrau Byw, sef y gymdeithas sy'n gefn i Wicipedia Cymraeg.

Ei yrfa

Mae wedi perfformio yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol, Llundain ac yn Theatr Frenhinol y Gyfnewidfa, Manceinion. Bu'n brif ganwr y Super Furry Animals ar un adeg, cyn iddynt ddod i amlygrwydd. Ym Mehefin 2008 sefydlodd fand newydd o'r enw The Peth; ef yw prif ganwr y grŵp. Mae un o'u caneuon yn cyfeirio at gyn-ffrind iddo, sef Sienna Miller, a oedd i'w gweld gyda Rhys yn Rhuthun, Nadolig 2007. Cafodd y ddau datŵ gwennol ar eu garddwn chwith. ` Cafodd Radd Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yng Ngorffennaf 2007 am ei gyfraniad i'r byd ffilmiau.

Ymhlith ei ddramâu llwyfan y mae: 'Accidental Death Of An Anarchist', a berfformiwyd yn Theatr Donmar, Llundain, 2003, 'Hamlet' yn Theatr Clwyd, 'A Midsummer Night's Dream' yn Regent's Park Theatre ac 'Under Milk Wood' a 'Volpone' yn y Royal National Theatre.

Ffilmiau

Enillodd wobr BAFTA am yr Actor Gorau am ei berfformiad fel Peter Cook yn Not Only But Always.

Cysylltiad allanol

  • (Saesneg) Rhys Ifans yn y Databas Ffilmiau'r Rhyngrwyd (IMDb)
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.