Don Quixote: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn newid: sh:Don Kihot→sh:Don Quijote de la Mancha |
PixelBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn newid: ar:دون كيخوطي |
||
Llinell 23: | Llinell 23: | ||
[[an:Don Quixot d'A Mancha]] |
[[an:Don Quixot d'A Mancha]] |
||
[[ang:Don Quijote]] |
[[ang:Don Quijote]] |
||
[[ar:دون |
[[ar:دون كيخوطي]] |
||
[[ast:Don Quixote de la Mancha]] |
[[ast:Don Quixote de la Mancha]] |
||
[[az:Don Kixot]] |
[[az:Don Kixot]] |
Fersiwn yn ôl 08:48, 30 Medi 2012
Don Quixote yw'r enw arferol ar nofel Miguel de Cervantes sydd a'r teitl llawn 'El ingenioso hidalgo don Quixote de la Mancha, neu yn orgraff Sbaeneg modern, Don Quijote. Y nofel yma, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1605, yw nofel enwocaf Sbaen; mae hefyd yn un o nofelau enwocaf y byd. Cyhoeddwyd yr ail gyfrol ddeng mlynedd yn ddiweddarach. Mae'n nofel ddoniol ym yr arddull bicaresg, ond mae neges fwy difrifol iddi hefyd.
Mae'r arwr, Alonso Quixano, yn foneddwr gwledig sy'n byw yn La Mancha. Trwy ddarllen gormod o lyfrau ar sifalri, mae'n dod i gredu ei fod yn byw mewn byd o farchogion o'r cyfnod yma, ac mae'n cychwyn allan gyda'i ysgweier Sancho Panza, yn marchogaeth ar ei hen geffyl "Rocinante". Mae'n rhaid i farchog gael cariad, a dewis Don Quixote yw Dulcinea del Toboso, mewn gwirionedd Aldonza Lorenzo, merch fferm gyfagos, sy'n gwybod dim am hyn.
Dilynir Don Quixote trwy gyfres o anturiaethau; un o'r enwocaf yw ei ynosodiad ar felinau gwynt gan dybio mai cewri ydynt. Ar ddiwedd y nofel, mae'n sylweddoli ei fod wedi bod yn ei dwyllo ei hun, ac yn marw.
Yn 2005, dathlwyd pedwar can mlwyddiant y llyfr mewn nifer o ffyrdd; er enghraifft yn Venezuela, rhannodd yr arlywydd Hugo Chávez filiwn o gopiai am ddim fel rhan o ymgyrch yn erbyn anllythrenedd.