Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 46.33.241.195 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Adam.
Llinell 30: Llinell 30:
* [[Alban Hefin]]
* [[Alban Hefin]]
* [[Beltany]]
* [[Beltany]]
* [[Gŵyl Cadi Ha]]
* [[Gŵyl Fair]]
* [[Gŵyl Fair]]
* [[Nos Calan Gaeaf]]
* [[Nos Calan Gaeaf]]

Fersiwn yn ôl 05:51, 30 Medi 2012

Y Fedwen Fai neu'r Fedwen Haf
Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, Pennsylvania

Hen ŵyl sy'n nodi dechrau'r haf ydyw Calan Mai (hefyd a elwir yn Gŵyl Calan Mai, neu Calan Haf) a ddethlir ar 1 Mai. Yr oedd yn ŵyl bwysig i'r Celtiaid a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd yn Beltane neu Bealtaine, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Fel y mae'r enw Bealtaine yn ei awgrymu, y mae'r duw Celtaidd Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, y mae'n gorwedd rhwng Gŵyl y Canhwyllau (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Yr oedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar Galan Mai hefyd.

Arferion ac arwyddocâd

Yn y Sanas Cormac, dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er mwyn eu diogelu rhag clefydau.[1]

Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.[2]

Yn ôl y Mabinogi, arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.

Traddodiadau Cymreig

  • Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.[3]
  • Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.[4]
  • Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.[5]
  • Yfid medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a gwaseila.[6]

Neo-baganiaeth

Mae'n un o wyliau Wica ac fe'i dethlir gan neo-baganiaid eraill hefyd.

Gwleidyddiaeth

Stamp Rwsiaidd i ddathlu canmlynedd Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr.

Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar y 1af o Fai. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1889. Yn yr hen Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol cynhelid gorymdeithiau mawr ar achlysur Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl gwlad o gwmpas y byd fel diwrnod o ddathlu a/neu brotest.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Gwyn Thomas. Duwiau'r Celtiaid. Llafar Gwlad 24.
  2. Duwiau'r Celtiaid
  3. Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.
  4. Welsh Folk Customs
  5. Welsh Folk Customs
  6. Welsh Folk Customs