Sacha Baron Cohen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
LaaknorBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3rc2) (robot yn ychwanegu: nn:Sacha Baron Cohen
B r2.7.2) (robot yn tynnu: ro:Sacha Baron Cohen
Llinell 171: Llinell 171:
[[pl:Sacha Baron Cohen]]
[[pl:Sacha Baron Cohen]]
[[pt:Sacha Baron Cohen]]
[[pt:Sacha Baron Cohen]]
[[ro:Sacha Baron Cohen]]
[[ru:Барон Коэн, Саша]]
[[ru:Барон Коэн, Саша]]
[[sh:Sacha Baron Cohen]]
[[sh:Sacha Baron Cohen]]

Fersiwn yn ôl 18:00, 27 Medi 2012

Sacha Baron Cohen
GalwedigaethActor, digrifwr, ysgrifennwr

Actor, digrifwr ac ysgrifennwr Seisnig ydy Sacha Noam Baron Cohen (Hebraeg: סשה נועם ברון כהן, ganed 13 Hydref, 1971). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei gymeriadau comedi Ali G (ffug berson ifanc o un o faestrefi Staines), Borat Sagdiyev (newyddiadurwr gwrth-semitaidd a rhywiaethol), a Brüno (newyddiadurwr ffasiwn hoyw camp dros ben llestri Awstriaidd). Graddiodd ym Mhrifysgol Caergrawnt.[1]

Yn ei weithiau, cynhalia gyfweliadau â ffigurau parchus wrth chwarae rhan un o'i gymeriadau er mwyn gwneud sbort ohonynt. Yn amlach na pheidio, ni sylweddola'r bobl sy'n cael eu cyfweld nad yw Cohen o ddifri. Cydnabuwyd llawer o waith Sacha Baron Cohen gydag enwebiadau Emmy, enwebiad am Oscar am yr Addasiad Orau o Ffilm, Gwobr BAFTA, a Golden Globe am yr Actor Gorau am ei waith yn y ffilm Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan.

Ar ôl i'r ffilm Borat gael ei rhyddhau, dywedodd Cohen y byddai'n ymddeol ar ôl Borat ac Ali G am fod y cyhoedd wedi dod yn rhy gyfarwydd gyda'i gymeriadau. Yn yr un modd, dywedodd yr un peth ar ôl i'r ffilm Brüno gael ei rhyddhau, gan ddatgan y byddai'r cymeriad yn ymddeol.

Ffilmograffiaeth

Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
1995 Jack and Jeremy's Police 4 Person a ddienyddiwyd Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu
1995 Pump TV Cyflwynydd teledu, sianel loeren leol y DU Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu
1996 Punch di-enw ffilm fer
1998 Live from the Lighthouse Ali G Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu
1998-1999 The 11 O'Clock Show Ali G Cyfres deledu
2000 The Jolly Boys' Last Stand Vinnie
Da Ali G Show (DU) Ali G, Borat Sagdiyev, Brüno Cyfres deledu
2002 Ali G Indahouse Ali G, Borat Sagdiyev
2003 Spyz James Bond (Ali G) ffilm fer
2003-2004 Da Ali G Show (UDA) Ali G, Borat Sagdiyev, Brüno TV series
2005 Curb Your Enthusiasm Larry's Guide #2 (guest star) Season 5, episode 10 "The End"
Madagascar King Julien Llais
2006 Talladega Nights: The Ballad of Ricky Bobby Jean Girard
Night of Too Many Stars: An Overbooked Event for Autism Education Borat Sagdiyev Rhaglen arbennig ar gyfer y teledu
Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan Borat Sagdiyev
2007 Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street Signor Adolfo Pirelli
2008 Madagascar: Escape 2 Africa King Julien Llais
2009 Brüno Brüno
2012 Madagascar 3: Europe's Most Wanted King Julien Llais

Cyfeiriadau

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.