Brwydr Moel-y-don: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
arfbais rhyfel
B rhyngwici
Llinell 18: Llinell 18:
[[Categori:Hanes Ynys Môn]]
[[Categori:Hanes Ynys Môn]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]

[[en:Battle of Moel-y-don]]

Fersiwn yn ôl 13:02, 22 Medi 2012

Arfbais rhyfel Llywelyn ll

Ymladdwyd Brwydr Moel-y-don ar y 6ed o Dachwedd 1282 ar Afon Menai rhwng milwyr Edward I o Loegr a milwyr Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, er mwyn amddiffyn Gwynedd rhag y Saeson. Er mai fel 'Brwydr Moel-y-don' y cyfeirir ati yn gyffredinol, mae lle da i gredu mai ar Draeth Lafan rhwng Llan-faes, Môn a'r tir mawr yr ymladdwyd hi, yn hytrach na ger Moel-y-don ei hun.

Yn ystod yr haf, 1282, goresgynwyd Môn gan rhan o fyddin Edward I a laniodd yno ar ôl hwylio o Ruddlan. Bwriad Edward oedd dwyn cynhaeaf yr ynys ac felly tynhau'r rhaff o gwmpas Gwynedd yn ei ymdrech i orchfygu'r Cymry. Aeth y Saeson ati i godi pont o bren dros Afon Menai yn ystod yr haf a dechrau'r hydref. Mae lleoliad y bont honno yn ansicr ac mae'n debyg mai pontŵn (sef pont o gychod wedi'u rhaffu wrth ei gilydd) oedd hi. Ni cheir cyfeiriadau at y frwydr fel 'Brwydr Moel-y-don' tan yr 16eg ganrif. Mae Moel-y-don yn safle hen fferi a leolir nid nepell o Lanidan. Ond roedd pencadlys y Saeson yn ardal Llan-faes, tua 7 milltir i'r dwyrain, ac roedd y gwaith yn golygu symud deunydd trwm a gweithwyr. Buasai'r Saeson yn wynebu anawsterau mawr i ymladd eu ffordd trwy goedwigoedd tewfrig ar ôl glanio hefyd. Cynigir gan haneswyr diweddar fel J. Beverley Smith mai rhwng Llan-faes ac ardal Bangor y codwyd y bont mewn gwirionedd gyda'r bwriad o ymosod ar lys Llywelyn yn Abergwyngregyn, dros Draeth Lafan.

Ar Ddyddgwyl Sant Lennard (6 Tachwedd), gwelwyd mintai greff o farchogion a milwyr traed Seisnig ar y bont. Cofnodir yr hyn a ddilynodd gan sawl croniclydd Seisnig. Ymddengys fod y Saeson ar Fôn wedi penderfynu ymosod heb orchymyn gan eu brenin a dywedir hefyd nad oedd y bont yn gwbl barod. Roedd yno saith marchog a thri chant o filwyr traed. Ar ôl iddynt lanio (yn fwy na thebyg ar Draeth Lafan) daeth y llanw i mewn yn gyflym gan adael dŵr rhyngddynt a'r bont. Yn sydyn, ymosododd y Cymry "allan o'r mynyddoedd uchel". Cymaint oedd braw a dychryn y Saeson fel y ffoesant yn ôl am y bont. Boddwyd pob un ohonynt, yn llwythog o arfwisgoedd trwm, yn ceisio dianc o afael gwŷr Llywelyn.

Bu sôn am y golled drychinebus (o safbwynt Lloegr) gan y Saeson am flynyddoedd ar ôl y digwyddiad. Roedd yn achos dathlu i'r Cymry, fodd bynnag, a cheir cyfeiriadau at y gyflafan yn y canu darogan.

Ffynhonnell

  • J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru (Caerdydd, 1986), tt. 362-365.