Catraeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
FoxBot (sgwrs | cyfraniadau)
gh
Llinell 10: Llinell 10:


{{Hen Ogledd}}
{{Hen Ogledd}}

==Gweler hefyd==
*[[Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr]]


[[Categori:Brwydrau Cymru]]
[[Categori:Brwydrau Cymru]]

Fersiwn yn ôl 04:51, 21 Medi 2012

Tiriogaethau Prydain 500-700

Enw lle sy'n ymddangos yn y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, sef yr Hengerdd, o'r Hen Ogledd yw Catraeth.

Ceir y cyfeiriadau mwyaf adnabyddus at y lle yn Y Gododdin, sy'n cyfeirio at frwydr a ymladdwyd efallai tua'r flwyddyn 600. Dywedir yma fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd Brythonig ac wedi daparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn (Caeredin heddiw), cyn eu gyrru ar ymgyrch i Gatraeth. Mae'n amlwg fod Catraeth ym meddiant yr Eingl ar y pryd. Lladdwyd bron y cyfan ohonynt mewn brwydr yn erbyn byddin enfawr y gelyn. Ceir cyfeiriadau at yr arwyr yn mynd i Gatraeth ar ddechrau amryw o'r penillion, er enghraifft "Gwŷr a aeth Gatraeth gan wawr".

Yng Nghanu Taliesin, sy'n perthyn efallai i gyfnod ychydig yn gynharach, cyferchir Urien Rheged, arglwydd Rheged fel 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth).

Yr ysgolhaig Cymreig Thomas Stephens yn y 19eg ganrif oedd y cyntaf i gynnig mai Catterick yn Swydd Efrog yng ngogledd Lloegr oedd "Catraeth". Derbyniwyd hyn gan Syr Ifor Williams a chan y rhan fwyaf o ysgolheigion ers hynny.


Gweler hefyd