Ulan Bator: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn ychwanegu: bxr:Улаан-Баатар yn newid: kk:Ұланбатыр |
Vagobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: uz:Ulan-Bator |
||
Llinell 121: | Llinell 121: | ||
[[ug:Ulanbatur]] |
[[ug:Ulanbatur]] |
||
[[uk:Улан-Батор]] |
[[uk:Улан-Батор]] |
||
[[uz:Ulan-Bator]] |
|||
[[vi:Ulaanbaatar]] |
[[vi:Ulaanbaatar]] |
||
[[war:Ulaanbaatar]] |
[[war:Ulaanbaatar]] |
Fersiwn yn ôl 10:04, 19 Medi 2012
Prifddinas a dinas fwyaf Mongolia yw Ulan Bator, neu Ulaanbaatar (Mongoleg: Улаанбаатар). Mae'r ddinas yn awdurdod llywodraeth leol annibynnol, heb fod yn rhan o dalaith, ac mae ganddi boblogaeth o fymryn dros 1 miliwn (2008).
Wedi'i lleoli yng ngogledd canolbarth y wlad, mae'r ddinas yn gorwedd tua 1310 m i fyny mewn dyffryn agored ar lan Afon Tuul. Hon yw canolfan ddiwylliannol, diwydiannol ac ariannol y wlad. Mae'n ganolfan cludiant hefyd, a gysylltir gan ffyrdd â phob dinas fawr ym Mongolia a gan reilffordd â'r Rheilffordd Traws-Siberia a rhwydwaith rheilffyrdd Gweriniaeth Pobl China.
Sefydlwyd y ddinas ym 1639 fel canolfan mynachlogydd Bwdhaidd, ond ni thyfodd lawer tan yr 20fed ganrif pan ddaeth yn ganolfan gweithgynhyrchu fawr gyda rhodfeydd eang a sgwariau agored ac adeiladau sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth newydd-glasurol y gwledydd sosialaidd yn ail hanner yr 20fed ganrif.
Addysg
Lleolir prif gampws Prifysgol Genedlaethol Mongolia yn Ulan Bator.
Atyniadau
Un o adeiladau hynotaf y ddinas yw mynachlog Bwdhaidd Gandantegchinlen Khiid.
Enwogion
- Lakva Sim (g. 1972), paffiwr
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan swyddogol