Islam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn newid: gd:Ioslam |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (robot yn newid: sah:Ислаам |
||
Llinell 190: | Llinell 190: | ||
[[rue:Іслам]] |
[[rue:Іслам]] |
||
[[sa:इस्लाममतम्]] |
[[sa:इस्लाममतम्]] |
||
[[sah: |
[[sah:Ислаам]] |
||
[[sc:Islam]] |
[[sc:Islam]] |
||
[[scn:Islam]] |
[[scn:Islam]] |
Fersiwn yn ôl 21:57, 17 Medi 2012
Rhan o gyfres ar |
---|
Arferion |
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
Sunni · Shi'a |
Astudiaethau Islamig · Celf |
Islam a chrefyddau eraill |
Cristnogaeth · Iddewiaeth |
Un o grefyddau mwyaf poblogaidd a gwasgaredig y byd yw Islam. Ystyr y gair yw ymostyngiad i ewyllys Duw (Allah) a'r cyflwr tangnefeddus o fod yn un â Duw a phopeth a grewyd ganddo. Mae'r gair yn perthyn i'r gair salām sy'n golygu "tangnefedd" a ddaw o'r gwreiddyn s-l-m. Mae dilynwr Islam yn Fwslim, sef "un sy'n ymostwng i ewyllys Duw." Ceir dwy brif enwad, sef y Sunni a'r Shia. Fel Cristnogaeth ac Iddewiaeth, mae'n un o'r crefyddau Abrahamig.
Sefydlwyd y grefydd ym Mecca gan y Proffwyd Mohamed (c.570-8 Mehefin, 632). Ymledodd y ffydd yn gyflym yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica ac mewn llai na chanrif ar ôl marwolaeth Mohamed roedd awdurdod y califfiaid a reolai ymerodraeth yr Umayyad yn ymestyn o Sbaen i Afon Indus yng ngogledd-orllewin India. Erbyn heddiw mae tua 20% o boblogaeth y byd yn byw mewn gwledydd Mwslim, o Foroco yn y gorllewin i Indonesia yn y dwyrain ac o Kazakhstan yn y gogledd i Fali a Swdan yn y de.
Mae Mwslemiaid yn derbyn Ibrahim (Abraham), Musa (Moses), Isa (Iesu Grist) ynghŷd â ffigyrau eraill o'r traddodiad Iddewig-Gristnogol fel proffwydi Duw. Fodd bynnag, credant mai Mohamed yw'r proffwyd mwyaf; yr olaf yn y gadwyn o broffwydi sy'n cychwyn gydag Adda. Credant fod y Coran (Qu'ran) yn air Duw, fel y datguddiwyd ef i Mohamed fesul pennod (sŵra) yn y cyfnod rhwng c. 610 a 632.
Arkân al-Dîn
- Prif: Pum Colofn Islam
Mae dilynwyr Islam i fod i ymarddel ac ymarfer Pum Colofn y Ffydd (arkân al-Dîn), a adnebyddir hefyd fel y farâ'idh, y pum egwyddor sanctaidd.
- Y shahâda, Cyffesiad y Ffydd, a ymgorfforir yn y datganiad lâ ilâha illâ'llâh wa Muhammad rasulu Allah ("Nid oes Duw ond Duw a Mohamed yw Negesydd Duw"). Mae rhywun o grefydd arall sy'n datgan hyn yn ddiffuant o flaen dau dyst Mwslim yn cael ei dderbyn fel Mwslim ei hun.
- Y salat (ll. salawât), sef y pum gweddi defodol a adroddir pum gwaith y dydd: ar doriad y wawr (subh), ar ganol dydd (dhuhr), ar ganol y prynhawn (asr), ar fachlud yr haul (maghrib) a dechrau'r nos (ishâ). Dechreuir pob gweddi gyda'r al-Fâtiha, a geir ar ddechrau'r Coran.
- Y zakât, sef rhoi elusen yn ôl gallu'r rhoddwr. Tua 5% o incwm y credadun a argymhellir yn y Coran. Yn aml mae'r mosg lleol yn trefnu hyn ac mae'r arian yn mynd at helpu'r tlodion, pobl gydag anabledd, gweddwon a'r amddifad.
- Y siyâm, sef ymprydio yn ystod Ramadan, y mis sanctaidd. Yr adeg honno mae bwyta, yfed, smygu, gwisgo peraroglau a chael perthynas rhywiol yn waharddedig o doriad y wawr hyd at fachlud yr haul. Nid oes disgwyl i blant ifanc, yr henoed neu rywun sy'n dioddef afiechyd meddyliol ddilyn y rheolau hyn yn gaeth. Mae gwragedd beichiog, mamau sy'n rhoi llefrith i'w babanod, rhywun sy'n dioddef afiechyd a theithwyr yn gallu gohirio'r siyâm a'i chyflawni yn ddiweddarach. Nid ystyrir fod cymryd ffisig yn torri'r ympryd.
- Mynd ar hajj neu bererindod i Fecca. Mae Mwslim yn fod i wneud hynny o leiaf unwaith yn ystod ei fywyd, os ydyw hynny yn ei gallu heb achosi caledi i'w deulu.
Hanes Islam
- Prif: Hanes Islam
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Sefydlwyd Islam ym Mecca gan y Proffwyd Mohamed. Ymledodd y ffydd yn gyflym yn y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica ac mewn llai na chanrif ar ôl marwolaeth Mohamed roedd awdurdod y califfiaid a reolai ymerodraeth yr Umayyad yn ymestyn o Sbaen i Afon Indus yng ngogledd-orllewin India.
Enwadau
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon. Ceir sawl enwad yn Islam:
- Sunni. Yr enwad fwyaf o lawer gyda dros 80% o Fwslemiaid yn perthyn iddi. Dyma brif ffrwd Islam a ystyrir weithiau yn Islam "uniongred".
- Shia. Yr enwad ail fwyaf, gyda tua 15% o Fwslemiaid yn perthyn iddi, yn bennaf yn Iran, de Irac a'r Yemen.
- Drus. Mwslemiaid Shia yw'r Drusiaid, ond mae eu crefydd yn cynnwys elfennau hynafol unigryw hefyd, sy'n tarddu o Gnostigiaeth efallai.
Cyfeiriadau
- Gabriel Mandel Khân, Mahomet le Prophète (Paris, 2002). ISBN 2-7441-5686-8
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol